Mae Menter Môn wedi bod yn trefnu gweithdai rhwng pobol leol a gwahanol sefydliadau, er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau i’r argyfwng ail gartrefi ar Ynys Môn.
Roedd y gweithdai yn gyfle i rannu syniadau, cynnal trafodaethau, a rhannu barn am darddiad y broblem, yn ogystal â chynnig datrysiadau.
Mae’r syniadau gafodd eu crybwyll yn cynnwys adeiladu tai modiwlar, datblygu dealltwriaeth pobol ifanc o’r farchnad dai, adnewyddu adeiladau gwag a llunio Siarter Dai Ynys Môn.
‘Arloesi lleol’
Roedd asiantaethau tai, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol, gwleidyddion a phobol leol yn rhan o’r sgyrsiau, a dywed Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Plaid Cymru ar yr ynys, fod arloesi’n lleol yn bwysig i ddatrys, ynghyd â phwyso ar y llywodraeth, yn bwysig i ddatrys yr argyfwng.
“Rydan ni’n wynebu argyfwng yma ym Môn o ran anhawster llawer o bobol, yn enwedig pobol ifanc, i ddod o hyd i gartrefi i’w prynu neu eu rhentu,” meddai.
“Dyna pam fy mod yn falch o gymryd rhan yn y gweithdai yma gan Menter Môn, ac rwy’n gobeithio y bydd y gwaith yn arwain at gamau ymarferol all fod yn rhan o’r ymateb i’r argyfwng.”
Dywed Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn, ei bod hi’n bwysig fod pobol yn cael cyfle i fyw yn eu hardal leol “er mwyn sicrhau bod yr ymdeimlad o gymuned yn cael ei gadw yma a bod y Gymraeg hefyd yn parhau i ffynnu”.
“Rydyn ni’n gweithio ar y cyd hefo prosiect LEADER Môn i ddadansoddi rhai o’r ymatebion sydd wedi cael eu cynnig i’r heriau er mwyn gweld pa ddatrysiadau gallwn ni eu peilota,” meddai wedyn.
‘Datrysiadau ymarferol’
Ychwanega Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru’n bwysig iawn i holl waith Menter Môn.
“Rydyn ni’n gwmni sy’n trio sicrhau cyfleoedd gwaith o safon i bobl leol, yn datblygu cyfleoedd a thechnoleg yn y meysydd twf, yn gwarchod yr amgylchedd a’r Gymraeg,” meddai.
“Wrth i ni fod yn gweithio ar yr holl rinweddau hyn mae hi’n naturiol ein bod ni’n poeni am ein cymunedau, mae’n amhosib i ni gadw pobol leol yn eu cymunedau gyda chynlluniau arloesol a swyddi o safon os nad oes yna gyfleoedd iddyn nhw gael cartrefi.
“Roedd gofyn felly i ni wneud rhywbeth i ddeall y broblem ac ystyried atebion i’r heriau – dyma ble daeth y syniad o gynnal y gweithdai trafod tai.
“Y bwriad a’r gobaith ydi y bydd y gweithdai hyn yn datblygu i fod yn ddatrysiadau ymarferol ar lawr gwlad er mwyn sicrhau gwell siawns i bobl leol fod yn prynu neu’n rhentu cartrefi.”
Cam nesaf y broses fydd penderfynu sut mae datblygu’r syniadau gafodd eu crybwyll yn ddatrysiadau ymarferol.