Mae holiadur wedi cael ei lansio i fesur y diddordeb mewn sefydlu gwefannau bro newydd yn rhan o fenter Bro360.

Daw hyn ar ôl i nifer o gymunedau ar draws Cymru ddangos brwdfrydedd yn ymuno â’r rhwydwaith, sydd eisoes yn cynnwys wyth gwefan yn Arfon a gogledd Ceredigion ers ei sefydlu yn 2018.

Gall unigolion o bob rhan o Gymru lenwi’r holiadur, sydd ar gael ar-lein ers ddoe (dydd Iau, Ionawr 27).

Pe bai’r ymateb yn ffafriol, fe fydd yn hwb fawr i’r ymgyrch i gael cefnogaeth ariannol i ehangu’r rhwydwaith i gynrychioli mwy o gymunedau yng Nghymru.

Mae Bro360 eisoes wedi cynnal sesiynau gyda chymunedau yn ne Ceredigion er mwyn trafod y syniad o sefydlu gwefannau yn y rhan honno o’r sir, ar ôl i nifer fynegi diddordeb.

‘Mwy na gwefannau newyddion’

Dair blynedd a hanner ers dechrau’r prosiect o dan adain cwmni Golwg, mae’r wyth gwefan ‘straeon lleol gan bobol leol’ sydd wedi’u sefydlu yn mynd o nerth i nerth.

Wrth i’r prosiect peilot ddod i ben ddiwedd mis Mawrth, mae’r fenter wrthi’n ceisio am gefnogaeth ariannol er mwyn parhau i’w datblygu.

“Mae cael cefnogaeth i’r fenter yn allweddol i gynnal y gwaith mawr sydd wedi’i wneud eisoes ac i wireddu’r breuddwyd o gael rhwydwaith o wefannau bro ar hyd a lled Cymru,” meddai Owain Schiavone, Cyfarwyddwr Bro360.

“Fe ddangosodd y gwefannau bro eu bod yn fwy na gwefannau newyddion; maen nhw hefyd yn tynnu cymdogaethau at ei gilydd ac yn hybu gweithgarwch Cymraeg y cymunedau – elfen hanfodol wrth anelu am filiwn o siaradwyr.”

Gwobrau Bro360

I ddathlu llwyddiant y gwefannau bro sydd eisoes yn bodoli, bydd Bro360 yn cynnal eu gwobrau blynyddol heddiw (dydd Gwener, Ionawr 28).

Bydd cyfraniad pobol ar lawr gwlad i’w gwefannau bro yn cael ei ddathlu a’i wobrwyo mewn deg categori gwahanol.

Drwy gydol y dydd, fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar draws y cyfryngau, gan gynnwys BBC Radio Cymru, S4C ac yma ar wefan Golwg360.

Dyma’r manylion ynglŷn â lle a phryd y gallwch gael clywed pwy yw’r enillwyr: