Mae Mark Drakeford yn galw am ddiwygio’r Blaid Lafur yn fewnol ar y sail nad yw Llafur “wedi dal i fyny â’r datganoli maen nhw’n ei gefnogi ar draws y Deyrnas Unedig”.
Daeth ei sylwadau yn ystod gweminar Labour in Communications, rhwydwaith o arbenigwyr ar faterion cyhoeddus sy’n cefnogi Llafur.
Cafodd ei holi a yw Llafur yn cefnogi arweinwyr datganoledig yn briodol ac yn eu cynnwys yn strwythurau mewnol y blaid.
Gofynnwyd iddo a yw ei blaid yn cefnogi arweinwyr datganoledig yn briodol ac yn eu cynnwys yn strwythurau mewnol y blaid.
“Rwy’n credu bod nifer o wahanol feysydd mewn ateb. Un ohonynt yw nad yw’r Blaid Lafur ei hun wedi dal i fyny â’r datganoli y maent yn ei gefnogi dros lywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae penderfyniadau’n dal i gael eu gwneud yn yr NEC [pwyllgor gwaith cenedlaethol] y dylai’r weithrediaeth Gymreig ei wneud, oherwydd dim ond i bobol sy’n byw ac sy’n aelodau o’r blaid yma yng Nghymru y mae’r penderfyniadau hynny’n berthnasol.
“Felly, y tu mewn i’r blaid, mae gwaith i’w wneud i ddiweddaru’r ffordd yr ydym yn gwneud ein busnes, i adlewyrchu presenoldeb meiri metro a phresenoldeb datganoli.
“Mae penderfyniadau’n dal i gael eu gwneud yn yr NEC [pwyllgor gwaith cenedlaethol] y dylai’r weithrediaeth Gymreig ei wneud, oherwydd dim ond i bobol sy’n byw ac sy’n aelodau o’r blaid yma yng Nghymru y mae’r penderfyniadau hynny’n berthnasol.
“Felly, y tu mewn i’r blaid, mae gwaith i’w wneud i ddiweddaru’r ffordd yr ydym yn gwneud ein busnes, i adlewyrchu presenoldeb meiri metro a phresenoldeb datganoli.”
Lle yn y cabinet cysgodol?
Y llynedd, dywedodd arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus y dylai Syr Keir Starmer gynnwys Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn ei gabinet cysgodol yn San Steffan.
Mae adroddiad Addas i’r Dyfodol a gafodd ei gyhoeddi gan rwydwaith o 1,200 o bobol o’r enw Llafur mewn Cyfathrebu yn dweud y dylai Keir Starmer gynnwys ffigurau Llafur adnabyddus o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, a fyddai hefyd yn cynnwys Andy Burnham fel Maer Manceinion a Sadiq Khan fel Maer Llundain.