Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn galw am ddechrau yn syth ar ddileu’r defnydd o beiriannau ffacs yn y Gwasanaeth Iechyd.

Daw’r alwad yn dilyn y datguddiad yn ystod un o bwyllgorau’r Senedd y bu’n rhaid i ysbyty brynu peiriant ffacs yn ddiweddar, gyda meddyg o’r radd flaenaf yn pledio “Dim mwy o beiriannau ffacs!”

Dywedodd Dr Karl Davies, a oedd yn siarad yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, pan fydd “meddygon teulu’n yn cyfeirio rhywun at yr uned frys, dydw i byth yn ei weld”.

Dydy’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ddim wedi cael prynu peiriannau ffacs ers mis Ionawr 2019.

“Mae’n hurt, yn yr oes sydd ohoni fod ysbyty newydd yng Nghymru wedi gorfod prynu peiriant ffacs fel y gall ddilyn prosesau henffasiwn sy’n dal i gael eu defnyddio mewn rhannau o’r GIG,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae’n dweud llawer am yr angen i lusgo’r GIG yng Nghymru i’r 21ain Ganrif.”

 

“Mae’n rhaid i hyn newid,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Nid yw gobaith Llywodraeth Cymru y byddai’r defnydd yn gostwng yn naturiol dros amser wedi’i gadarnhau, ac felly mae’n rhaid iddynt yn awr roi camau ar waith i sicrhau bod y dechnoleg hon – a’r holl gostau sy’n gysylltiedig â chynnal yr hen beiriannau hyn – yn cael eu cyflwyno’n raddol, gan ddechrau nawr.”

Yn 2018 roedd tua 1,000 o beiriannau ffacs yn dal i gael eu defnyddio mewn ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru.

Ar y pryd, cafodd y dechnoleg ei alw’n “greiriau” gan un o feddygon gorau Cymru.

Mabwysiadodd sefydliadau y dechnoleg yn yr 20fed ganrif ac ar ôl gwelliannau technolegol gan gwmnïau o Japan, daethon nhw’n gyffredin yn y 1970au a’r 1980au.

Llywodraeth Cymru

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu mynediad at wybodaeth drwy wasanaethau digidol, rhwng lleoliadau iechyd a gofal a chyda’r claf.

“Gyda’r rhwydwaith teleffoni analog ar y gweill yn cael ei ddiffodd yn 2025, bydd pob ysbyty wedi gorfod mudo i wasanaethau digidol, ac rydym yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni.”