Bydd Cymru’n symud yn llawn i lefel rhybudd sero fory (dydd Gwener, Ionawr 28) wrth i’r achosion Covid-19 “sefydlogi”, meddai Mark Drakeford.
Mae’r newidiadau’n golygu y gall clybiau nos ailagor, a fydd y rheol chwe pherson ddim bellach yn berthnasol wrth ymgynnull tu mewn llefydd megis caffis, bwytai, tafarndai, a sinemâu.
Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw dwy fetr ar wahân ym mhob safle sy’n agored i’r cyhoedd a phob gweithle yn cael ei ddileu hefyd.
Hwn fydd y cam olaf yn y broses raddol o godi’r camau a ddaeth i rym ar Ddydd San Steffan wrth i Lywodraeth Cymru ymateb i amrywiolyn Omicron.
Bydd rhai camau diogelu’n aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarndai, caffis a chlybiau nos wedi’u heithrio rhag yr angen i wisgo mygydau.
Dywedodd Mark Drakeford bod modd llacio’r cyfyngiadau oherwydd “gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant y rhaglen frechu”.
Ers dechrau mis Rhagfyr hefyd, mae mwy na 36,000 o bobol wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn.
Newidiadau
Wrth i Gymru gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero heddiw, mae’r newidiadau’n cynnwys:
- clybiau nos yn cael ailagor.
- dileu’r gofyniad i gadw pellter o 2m ym mhob safle cyhoeddus a phob gweithle.
- dileu’r rheol chwe pherson ar gyfer lleoliadau cyhoeddus, fel safleoedd lletygarwch, sinemâu a theatrau.
- Fydd dim angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt.
Bydd angen cael pàs Covid o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, theatrau, a neuaddau cyngerdd.
Er na fydd gweithio o gartref yn ofyniad cyfreithiol mwyach, bydd yn dal i fod yn bwysig, meddai Llywodraeth Cymru.
Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol i’r coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau ei ledaeniad, a all gynnwys pellter cymdeithasol o 2m neu reoli mynediad.
Rhaid i bawb barhau i hunanynysu am bum niwrnod os ydyn nhw’n profi’n bositif am Covid-19, a chymryd prawf llif unffordd 24 awr ar wahân ar ddiwrnod pump a chwech.
‘Arwyddion cadarnhaol’
Dywed Mark Drakeford fod penllanw ton Omicron wedi mynd heibio, a bod “arwyddion cadarnhaol” fod achosion yn dechrau sefydlogi.
“Er hynny, mae angen i bawb barhau i gymryd camau i’w diogelu eu hunain – nid yw’r pandemig wedi dod i ben eto yn anffodus,” meddai’r Prif Weinidog.
“Rydyn ni’n symud i lefel rhybudd sero a byddwn yn parhau i gymryd rhai camau diogelu pwysig, fel gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do a chynnal asesiadau risg.
“Mae modd gwneud hyn oherwydd ymdrechion a gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant rhyfeddol ein rhaglen frechu a’r pigiadau atgyfnerthu. Diolch i bawb.”
Bydd y cyfyngiadau’n cael eu hadolygu eto ar Chwefror 10.
Galw am ddod â chyfnodau clo i ben
Dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n “gadarnhaol” gweld Cymru’n cael mwy o ryddid wrth i’r cyfnod hunanynysu gael ei gwtogi ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.
“Fodd bynnag, dyw hyn ddim yn golygu bod y boen yn gorffen i’r rhai sydd wedi colli allan yn sgil y cyfyngiadau goreiddgar diweddar: mae masnach diwydiant lletygarwch Cymru wedi bod draean yn is na’r diwydiant yn Lloegr ers Dydd San Steffan, ac mae pecynnau cymorth wedi cyrraedd cyfrifon banc yn hwyrach nag roedd gweinidogion Llafur wedi’i addo,” meddai.
“Wrth symud ymlaen, mae’n rhaid i’r weinyddiaeth Lafur ym Mae Caerdydd ddweud wrth y cyhoedd na fydd yna fwy o lefelau rhybudd yng Nghymru wrth i normalrwydd fod o fewn gafael, rydyn ni angen dyddiadau ar gyfer pryd y gallwn ni ddysgu byw gyda’r feirws heb fygythiadau pellach am gyfnodau clo er mwyn delio ag amrywiolion damcaniaethol.
“Mae hyn yn golygu cael gwared ar gyfyngiadau sy’n niweidio busnesau, gwneud mygydau’n fater o ddewis a hunangyfrifoldeb, a chael gwared ar dystysgrifau brechu aneffeithiol, dibwynt, gorfodol, lle nad oes unrhyw dystiolaeth i ddangos eu bod nhw’n dal i weithio.”