Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi adleisio’r alwad i ddatrys yr argyfwng tai, gan ddweud bod cymunedau a’r Gymraeg yn cael eu “herydu ymhellach” gan y sefyllfa.
Daw sylwadau Mabon ap Gwynfor ar ôl i sawl arolwg ddangos bod prisiau tai cyfartalog yng Nghymru ar gynnydd sylweddol, ac yn uwch na gweddill y Deyrnas Unedig ar sawl achlysur.
Mae nifer, gan gynnwys Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn credu mai’r twf mewn ail gartrefi yw un o’r prif sbardunau y tu ôl i’r prisiau anferth, a’i fod yn golygu bod nifer o bobol ifanc yn methu â chael ar yr ysgol dai.
Mae Mabon ap Gwynfor, sydd â chyfrifoldeb dros dai a chynllunio, yn bendant ei farn fod angen gweithredu ar unwaith er mwyn gwneud tai yn fwy fforddiadwy a lleihau’r sgil-effeithiau ar gymunedau a’r iaith.
Yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, mae ymrwymiadau i weithredu’n “radical” ar faterion gan gynnwys rheoli ail gartrefi a sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol i wella cyflenwad tai fforddiadwy.
Yn rhan o hynny, mae rhanbarth Dwyfor, sy’n rhan o etholaeth Mabon ap Gwynfor, wedi ei dewis fel ardal beilot ar gyfer treialu dulliau i leihau ail gartrefi a chartrefi gwyliau, ac fe fydd £1m ar gael i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal.
‘Mae ein cymunedau’n dioddef’
Wrth ymateb i’r cynnydd sylweddol yn ddiweddar ym mhrisiau tai, ategodd Mabon ap Gwynfor at yr alwad i weithredu.
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson dros ddegawdau lawer yn ein galwadau ar Lywodraethau i weithredu i ddatrys yr argyfwng tai,” meddai.
“Mae prisiau sy’n codi’n gyflym yn arwydd clir bod y galw yn fwy na’r hyn sydd ar gael, nid yw hyn yn cael ei deimlo’n llymach nag ar gyfer prynwyr tro cyntaf.
“Mae angen i gartrefi fod yn fforddiadwy eto i bobol ym mhob rhan o Gymru.
“Trwy’r amser mae tai yn parhau i fod allan o gyrraedd pobol sy’n dymuno aros yn y lle maen nhw’n ei alw’n gartref, mae ein cymunedau’n dioddef a bydd y rhai sydd â’r iaith yn ganolog iddynt yn cael eu herydu ymhellach.
“Mae’r argyfwng tai yn cael sgil-effaith ar draws holl gymunedau Cymru, a thrwy’r Cytundeb Cydweithredu gyda Llywodraeth Cymru, bydd Plaid Cymru yn gallu cymryd camau radical i fynd i’r afael â’r toreth o ail gartrefi a thai anfforddiadwy.”