Mae Boris Johnson wedi wfftio honiadau ei fod wedi awdurdodi symud anifeiliaid o Affganistan cyn pobol, gan ddisgrifio’r cyhuddiadau fel “riwbob llwyr”.
Ddoe (dydd Mercher, Ionawr 26), fe ddaeth i’r amlwg fod negeseuon yn dangos bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi rhoi cyfarwyddyd i sicrhau bod awyren ar gael i symud anifeiliaid yn ystod cwymp Kabul, prifddinas Affganistan.
Ond wrth siarad yn ystod ymweliad â Chonwy heddiw (dydd Iau, Ionawr 27), dywedodd Boris Johnson “fod y fyddin bob amser yn blaenoriaethu bodau dynol ac roedd hynny’n gwbl gywir”.
E-byst
Mae’n un o nifer o negeseuon e-bost sydd wedi’u cyhoeddi gan y Pwyllgor Dethol Materion Tramor.
Datgelodd y pwyllgor, sy’n cynnal ymchwiliad i’r ffordd y mae’r llywodraeth yn ymdrin ag argyfwng Affganistan, gyfathrebiadau sy’n awgrymu bod y Prif Weinidog wedi gorchymyn achub yr anifeiliaid o elusen Nowzad, sy’n cael ei rhedeg gan y cyn-Forwr Brenhinol, Pen Farthing.
Mae Downing Street yn dweud nad oedd y Prif Weinidog wedi chwarae “unrhyw rôl” mewn rhoi cyfarwyddyd i hynny ddigwydd.
Mae neges ym fis Awst y llynedd at swyddog arall yn y Swyddfa Dramor, dywedodd: “Mae Elusen Nowzad, sy’n cael ei rhedeg gan gyn-Forwr Brenhinol, wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd ac mae’r Prif Weinidog newydd awdurdodi eu staff a’u hanifeiliaid i gael eu gadael.”
Pan ofynnwyd iddo ym mis Rhagfyr a oedd wedi blaenoriaethu anifeiliaid dros bobol Affganistan wrth wacáu Kabul, dywedodd Boris Johnson fod “hynny’n nonsens llwyr”.
‘Gwneud y peth cywir’
Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr heddiw, fe wnaeth e ategu ei fod yn gwrthod yr honiadau.
“Mae hyn oll yn riwbob llwyr,” meddai.
“Roeddwn i’n falch iawn o ymdrechion y fyddin i allu symud 15,000 o bobol allan o Kabul.”
Wrth gael ei gwestiynu ymhellach ynghylch a oedd e wedi ymyrryd fe ddywedodd, “Naddo, dim o gwbl.”
“Fe wnaeth y fyddin flaenoriaethu gwacáu bodau dynol a dyna oedd y peth cywir i’w wneud,” meddai.
Ymunodd y Prif Weinidog ag Ysgrifennydd Cymru Simon Hart ar ei daith i “weld lefelu fyny ar waith”, meddai ei lefarydd.
Adroddiad Sue Gray
Yn y cyfamser, does dim oes cadarnhad o hyd fod Downing Street wedi derbyn adroddiad y Swyddfa Gabinet gan Sue Gray i bartïon a digwyddiadau a gafodd eu cynnal yn Rhif 10.
Does dim sicrwydd pryd y caiff ei gyhoeddi chwaith.
Mae swyddogion cyfreithiol yn craffu ar y canfyddiadau cyn danfon yr adroddiad i Downing Street er mwyn ei gyhoeddi.
Mae Boris Johnson wedi cael ei holi a fyddai’r llywodraeth yn “cyhoeddi [adroddiad Ms Gray] yn llawn”.
Atebodd gan ddweud, “Wrth gwrs”, a’i fod yn glynu yn “llwyr” i’r hyn a ddywedodd yn Nhŷ’r Cyffredin”
Mae e wedi ymrwymo i wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl derbyn yr adroddiad.
Ond gan ei fod yn y gogledd heddiw, mae disgwyl i’r Tŷ roi’r gorau i eistedd am 5yh, a does dim busnes gan y Llywodraeth fory (dydd Gwener, Ionawr 27).
Mae hyn yn golygu bod yr adroddiad yn debygol o gael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf.