Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog swnllyd, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi cyhuddo Boris Johnson o ddangos “dim byd ond dirmyg” i’r cyhoedd dros bartïon yn ystod y cyfnodau clo.
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud unwaith eto na fydd yn ymddiswyddo, ac mae’n mynnu bod ei lywodraeth yn “cael y galwadau mawr yn iawn” gan gyfeirio at ddelio â’r pandemig Covid-19.
Daw hyn wrth iddo ddisgwyl derbyn adroddiad Sue Gray, sy’n ymchwilio i gyfres o honiadau o dorri rheolau yn Downing Street.
Mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw (dydd Mercher, Ionawr 26).
Cytunodd Boris Johnson fod y Côd Gweinidogol yn berthnasol iddo, ond gwrthododd wneud sylw am yr ymchwiliad am bartïon yn Downing Street.
“Mae’r Côd Gweinidogol yn dweud y bydd disgwyl i weinidogion sy’n camarwain y Senedd yn fwriadol gynnig eu hymddiswyddiad,” meddai Keir Starmer, cyn gofyn, “A yw’r Prif Weinidog yn credu bod hynny’n berthnasol iddo?”
“Wrth gwrs,” meddai’r prif weinidog wrth ateb.
“Ond gadewch imi ddweud wrth y Tŷ fy mod yn credu ei fod yn gwahodd cwestiwn am ymchwiliad sydd – fel y gwyddoch, Mr Llefarydd, ni allaf wneud sylw – ac y bydd ef, fel cyfreithiwr, yn gwybod na allaf wneud sylw arno.”
Fe wnaeth Boris Johnson grynhoi drwy ddweud mai’r “broblem gyda’r Blaid Lafur heddiw yw ei fod yn gyfreithiwr, nid yn arweinydd” wrth drafod arweinydd yr wrthblaid.
Senedd swnllyd
Fe dderbyniodd Boris Johnson gefnogaeth gan aelodau Ceidwadol, gyda’r siambr yn swnllyd o’i gymharu â’r wythnosau a fu.
Bu’n rhaid i’r Llefarydd ddweud, pe byddai’r sŵn yn parhau na fyddai aelodau’n cael cyfrannu i’r ddadl.
Bu’n rhaid i Lloyd Russell-Moyle, yr aelod seneddol Llafur, dynnu ei sylw yn ôl wedi iddo ddweud y byddai’n “well ganddo gael ei arwain gan gyfreithiwr na chelwyddgi”.
Mae’n dweud bod pob eiliad mae Boris Johnson yn aros yn ei swydd yn “llusgo allan i’r llu o deuluoedd” oedd yn cadw at reolau Covid yn ystod y pandemig.
Mae Carolyn Harris, Dirprwy Arweinydd Llafur Cymru ac Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe,hefyd wedi lleisio pryderon am Ymchwiliad Heddlu Llundain i’r partïon yn Rhif 10.
The police are investigating the PM.
Let that sink in, the PM is being investigated for breaking the law.@Keir_Starmer shows what leadership, honesty and integrity looks like whilst the PM smirks like a schoolboy who's been found out. #PMQs
— Carolyn Harris MP (@carolynharris24) January 26, 2022
“Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r Prif Weinidog,” meddai ar Twitter.
“Gadewch i hynny suddo i mewn, mae’r Prif Weinidog yn destun ymchwiliad i dorri’r gyfraith.
“Mae @Keir_Starmer yn dangos sut mae arweinyddiaeth, gonestrwydd ac uniondeb yn edrych tra bod y Prif Weinidog yn gwenu fel bachgen ysgol sydd wedi cael ei ddal allan. #PMQs”
Dangos y drws
Mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP, wedi annog aelodau seneddol Torïaidd i “ddangos y drws i’r Prif Weinidog”.
Wrth ymateb fe ddywedodd Boris Johnson fod Ian Blackford wedi codi’r un pwynt yr wythnos ddiwethaf.
“Roedd e’n anghywir bryd hynny, ac mae’n anghywir nawr.”
“Does gen i ddim bwriad i wneud yr hyn mae’n ei awgrymu,” meddai.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi gwneud galwadau pellach am ymddiswyddiad y Prif Weinidog.
Boris Johnson making childish jokes about cakes.
He really doesn't get it does he? He's laughing at us all.
Resign.#PMQs
— Hywel Williams AS/MP (@HywelPlaidCymru) January 26, 2022
“Mae Boris Johnson yn gwneud jôcs plentynnaidd am gacennau,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, ar Twitter.
“Dydi o wir ddim yn ei deall hi. Mae o’n chwerthin ar bob un ohonom ni. Ymddiswyddwch. #PMQs”
Mae Downing Street wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi derbyn adroddiad yr uwch was sifil, Sue Gray o hyd.
Mae Rhif 10 yn dweud y bydd yn cael ei gyhoeddi ychydig cyn i Boris Johnson ddod i Dŷ’r Cyffredin i wneud datganiad am ganfyddiadau’r adroddiad, gan roi cyfle i’r gwrthbleidiau ei ddarllen.
Dadansoddiad: Jacob Morris, Gohebydd Senedd
Y clwyfau’n ddwfn ac yn dyfnhau
Yn wahanol i’r wythnosau a fu, roedd ei braidd ei hun i’w clywed yn rhuo eu cefnogaeth wrth i Boris Johnson gamu i Ffau’r Llewod heddiw. Ac os oes gan Boris unrhyw obaith o barhau i arwain y pac drwy’r jwngl gwleidyddol, mae’r oriau a’r diwrnodau nesaf yn hollbwysig.
Yr wythnos ddiwethaf, bu bron iddo oroesi’r 45 munud tyngedfennol heb ymosodiad gan ei feinciau ei hun, ond roedd y demtasiwn yn ormod i rai, gyda David Davis yn awchu am waed ei feistr, ac fe aeth amdano – gyda nifer o’r Torïaid yn gadael y Siambr gyda’u cynffonau rhwng eu coesau.
Nid felly y buodd hi heddi, gyda Boris i’w weld yn gyfforddus yn ei gynefin. Mae’r clwyfau’n dwfn, ac yn dyfnhau, i’w arwienyddiaeth ond mae’n parhau i arwain y pac…am y tro ta beth. Ond er gwaetha’r sŵn a’r sgrechian o’i blaid mae sïon, sibrwd a chynllwyno ar grwydr yn San Steffan. Ac mae Boris yn troedio’n ymwybodol y gallai operation dead meat, y cynllun i achub ei groen, droi’n operation red meat yn go fuan.
Rhaid cofio, mae praidd y Torïaid yn griw anifeilaidd a didrugaredd wrth ymdrin â’i harweinyddion ac ymhen rhai oriau, fe fydd yr adroddiad hirddisgwyliedig ar gael o’r diwedd gan Sue Gray. Gyda chynifer o aelodau’n aros am y casgliadau, efallai ein bod yn agos i’w weld yn wynebu ei ffawd a chael ei daflu i’r llewod, unwaith ac am byth.
A wnaiff Boris oroesi geiriau Gray? Neu ai mater o amser yw hi nes iddo gael ei lowcio gan ei lewod ei hun?