Mae Cyd-bwyllgor newydd rhwng Cynghorau Sir Powys a Cheredigion wedi penodi eu cadeiryddion a’u prif weithredwr yn ystod eu cyfarfod cyntaf yr wythnos hon.

Bwriad Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yw atgyfnerthu ac integreiddio’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn tri maes allweddol, sef gwella lles economaidd, cynllunio trafnidiaeth ranbarthol a chynllunio datblygu strategol.

Bydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, yn cadeirio’r cyd-bwyllgor, tra bod Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys, wedi ei hethol yn is-gadeirydd.

Mae’n debyg y bydd y rolau hynny yn cael eu cyfnewid yn flynyddol rhwng arweinwyr y ddau gyngor sir.

Yn ogystal, bydd cynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn aelod o’r cyd-bwyllgor ar gyfer materion sy’n ymwneud â chynllunio.

‘Edrych ymlaen at weithio’n agos’

Yn ystod y cyfarfod cyntaf, a gafodd ei gynnal ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 25), cafodd ei bennu y byddai cynghorau Ceredigion a Phowys yn darparu £120,000 ar gyfer cyllid y cyd-bwyllgor yn y flwyddyn ariannol nesaf.

“Bydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd eisoes ar waith yn ein rhanbarth,” meddai Ellen ap Gwynn yn dilyn y cyfarfod.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n gilydd er budd ein trigolion a’n busnesau.”

Mae’r cyd-bwyllgor yn un o bedwar sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gyda’r gweddill wedi eu lleoli yn y gogledd, y de-ddwyrain, a’r de-orllewin.