Mae gwleidyddion y Deyrnas Unedig yn “chwarae â thân, gan gynyddu’r tensiwn ynghylch yr Wcráin”, yn ôl mudiadau heddwch Cymru, sy’n dweud eu bod nhw’n “gresynu” bod milwr o Gymru wedi’u hanfon i ganol yr anghydfod ac yn gobeithio mai “cymod fydd yn llwyddo, nid dadlau”.
Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn hyrwyddo cynigion diplomyddol i leihau’r tensiwn a cheisio ateb i’r argyfwng yn hytrach na’i gynyddu, meddai’r mudiadau.
Mae chwech o undebau heddwch Cymru’n cefnogi datganiad ‘Stop The War’, ac yn dweud y dylid cymryd hunaniaeth yr Wcráin a phryderon diogelwch Rwsia o ddifrif.
Mae Rwsia, sy’n gwadu cynlluniau i ymosod ar yr Wcráin, wedi anfon tua 100,000 o filwyr i’r ffin rhwng y ddwy wlad.
Mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi 8,500 o filwyr ar rybudd, tra bod Boris Johnson wedi dweud y byddai’r Deyrnas Unedig yn fodlon anfon milwyr i’r ardal er mwyn cefnogi lluoedd NATO.
Rhybuddiodd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ddydd Llun (Ionawr 24) y byddai ymosodiad yn “boenus, treisgar, a gwaedlyd”, ond dywedodd Volodymyr Zelenskyy, Prif Weinidog yr Wcráin, fod y sefyllfa dan reolaeth, ac nad oes angen mynd i banig.
‘Cymod, nid dadlau’
“Mae mudiadau heddwch yng Nghymru yn cefnogi datganiad Stop the War ar sefyllfa bryderus yn yr Wcráin,” meddai Cymdeithas y Cymod, CND Cymru, Steve Heaney o Veterans for Peace, Undod, Stop the War Caerdydd ac Ed Bridges o’r Peace Pledge Union yng Nghymru.
“Gwyddom fod milwyr o’r Gatrawd Frenhinol Gymreig wedi bod yn gweithredu yn yr Wcráin ac Estonia, sydd wedi arwain at yr argyfwng presennol.
“Rydym yn gresynu’n fawr fod ein cydwladwyr wedi eu rhoi yn y sefyllfa hon.
“Gobeithiwn mai cymod fydd yn llwyddo, nid dadlau.”
‘Hyrwyddo cynigion diplomyddol’
Mae’r datganiad gan Stop The War yn mynnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Blaid Lafur yn ymbellhau oddi wrth bolisïau a blaenoriaethau’r Unol Daleithiau.
“Mae gwleidyddion Prydain yn chwarae â thân gan gynyddu’r tensiwn ynghylch yr Wcráin,” meddai Stop The War.
“Wrth i’r peryg o wrthdaro dorri allan rhwng Rwsia a’r Wcráin yn dilyn beth sy’n ymddangos fel diffyg cynnydd mewn trafodaethau gyda’r UDA, mae Torïaid a Llafur yn herio’i gilydd yn ddibwrpas.
“Mae’r llywodraeth wedi gwerthu arfau newydd i’r Wcráin ac mae’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss wedi gwneud araith ymfflamychol yn Awstralia.
“Mae gweinidogion yr wrthblaid, David Lammy a John Healey, wedi hedfan i Kyiv i gefnogi gwrthwynebiad yr Wcráin i Rwsia.
“Dylai Prydain fod yn hyrwyddo cynigion diplomyddol difrifol i leihau’r tensiwn a cheisio ateb i’r argyfwng yn hytrach na’i gynyddu.
“Mae hyn yn golygu cymryd hunaniaeth Wcráin a phryderon diogelwch Rwsia o ddifrif.”
‘Stopio ehangu NATO’
Mae aelodau o gynghrair NATO – gan gynnwys Denmarc, Sbaen, Bwlgaria a’r Iseldiroedd – yn anfon mwy o awyrennau rhyfel i Ddwyrain Ewrop i gryfhau amddiffynfeydd yno.
“Mae Stop the War yn mynnu diwedd ar ehangu di-baid NATO, sydd ond wedi ychwanegu at densiwn rhyngwladol, yn enwedig gan fod NATO wedi chwarae rhan fwy ymosodol yn rhyngwladol yn y Balcanau, y Dwyrain Canol a De Asia,” meddai Stop The War.
“Rydym yn gwrthwynebu lleoli lluoedd Prydain ar y ffin â Rwsia fel pryfocio di-bwrpas.
“Rydym yn annog lleihau arfau niwclear yn Ewrop a chytuno ar fesurau rheoli arfau newydd, gan gynnwys tynnu pob arf o’r fath yn ôl i diriogaeth y wladwriaeth sy’n eu rheoli.
“Credwn fod angen pensaernïaeth diogelwch hollgynhwysol newydd yn Ewrop, heb fod o dan arweiniad unrhyw un wladwriaeth unigol.
“Rydym yn mynnu bod llywodraeth Prydain a’r Blaid Lafur yn ymbellhau oddi wrth bolisïau a blaenoriaethau’r UDA ac yn datblygu polisi tramor annibynnol.”