Mae cwest wedi dod i’r casgliad bod Cymro a fu farw yn Ghana wedi cael anafiadau i’w ben cyn boddi.
Bu farw Iwan Gwyn, a oedd yn wreiddiol o Lanaelhaearn yng Ngwynedd, yn 49 oed, ar ôl damwain jet-sgi yn y wlad yng ngorllewin Affrica ar Ragfyr 30.
Roedd wedi byw yn y wlad ers naw mlynedd, ac yn gweithio fel cyfarwyddwr prosiect adeiladu yno i gwmni Barbisotti, ar ôl gweithio yn Nulyn am gyfnod.
Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei agor yn swyddogol heddiw (dydd Mercher, Ionawr 26) yng Nghaernarfon.
Mae’n debyg bod y gŵr wedi bod yn teithio ar jet-sgi ar afon yn Alorkpem, ac nad oedd wedi dychwelyd erbyn nos.
Fe ddatgelodd canlyniadau post-mortem ei fod wedi marw o ganlyniad i “fygu neu foddi ac anaf pŵl i’w ben”.
Doedd dim modd ei achub, yn ôl yr awdurdodau yn Ghana, ac fe gafwyd e’n farw yn y fan a’r lle, gyda Dr Stephen Anan yn adnabod ei gorff yn ffurfiol.
Cafodd y cwest ei ohirio gan yr uwch grwner Katie Sutherland tra bod yr ymchwiliadau yn parhau.