Mae un o gynghorwyr sir Powys wedi cyhuddo deilydd portffolio cyllid y Cyngor o “anwybyddu democratiaeth” wrth beidio cynyddu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi.

Mae Elwyn Vaughan, Cynghorydd Plaid Cymru, yn galw ar gynghorwyr i “sefyll dros ddemocratiaeth, dros yr hyn sy’n iawn, a rhoi stop ar arferion totalitaraidd yng Nghyngor Powys”.

Daw ei alwad ar ôl anghytuno rhyngddo fe a’r Cynghorydd Aled Davies, deilydd portffolio Cyllid ac arweinydd grŵp Ceidwadwyr Cyngor Powys, yn ystod Panel Cyllid y Cyngor.

Er bod cyfarfod llawn o’r cyngor wedi cytuno ym mis Medi 2020 i gynyddu’r premiwm ar gyfer ail gartrefi, dydi hynny ddim wedi’i gynnwys yn y cynigion ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.

Roedd y Cyngor wedi cytuno i gynyddu’r premiwm fel ei bod 75% yn uwch na threth arferol y Cyngor, a chafodd ymgynghoriad ei gynnal ar y mater hefyd.

Mae’r cynigion yn cynnwys cynnydd o 3.9% yn y dreth gyngor arferol.

‘Tactegau twyllodrus’

“Cafodd cynnig ei basio gan y Cyngor llaw ni gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi, fodd bynnag, er bod yna ewyllys amlwg gan y Cyngor i weld hynny, mae hi’n berffaith amlwg bod deilydd y portffolio’n trio’i orau i’w anwybyddu, gan actio mewn ffordd dotalitaraidd, ac anwybyddu democratiaeth,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan.

“Roedd e’n ei erbyn yn y cyfarfod Cyngor llawn, nid yw’n gallu derbyn ei fod wedi colli’r ddadl a nawr mae’n defnyddio tactegau twyllodrus a honiadau ffug i gyfiawnhau ei weithredoedd.

“Ar un llaw, mae’r Ceidwadwyr eisiau taro ein trigolion â threth cyngor uwch yn ystod cyfnod o chwyddiant a phwysau anferth, ond ar y llaw arall maen nhw am warchod y cyfoethog.

“Mae e’n ceisio beio Llywodraeth Cymru, pan mae gan Gyngor Powys y pwerau sydd eu hangen mewn gwirionedd.

“Mae e’n bod yn anonest, camarweiniol ac yn creu stori ffug i gyfiawnhau’r esgus er mwyn anwybyddu dymuned y Cyngor.

“Dyna pam fy mod i’n gofyn i fy nghyd gynghorwyr Annibynnol i ymuno â ni a sefyll dros ddemocratiaeth, sefyll dros yr hyn sy’n iawn, sefyll dros weithredu’r broses, a phleidleisio yn erbyn y gyllideb sy’n cael ei chynnig er mwyn gorfodi deilydd y portffolio i barchu dymuniad y Cyngor a chynnig cyllideb wedi’i diwygio.

“Ni fedrwn ni ganiatáu i Bowys gael ei gweld fel awdurdod gwrth-ddemocrataidd ac anghyfiawn gydag agweddau awdurdodaidd sy’n anwybyddu prosesau’n sgil mympwy gwleidyddol y Ceidwadwyr.

“Gwnewch y peth iawn a sefyll ynghyd â ni ar y mater hwn o egwyddor.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Powys am ymateb.