Mae’r rheithgor yn achos dau ddyn a merch yn ei harddegau sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio Dr Gary Jenkins mewn parc yng Nghaerdydd, wedi clywed clip 15 munud o’r ymosodiad arno.

Digwyddodd yr ymosodiad “ciaidd ac arteithiol” ar y dyn 54 oed ym Mharc Biwt ar Orffennaf 20 y llynedd.

Bu farw’r seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd o ganlyniad i’w anafiadau ar Awst 5, ychydig dros bythefnos wedi’r ymosodiad.

Mae Jason Edwards (25), Lee Strickland (36) a merch 17 oed nad oes modd ei henwi, wedi’u cyhuddo o lofruddio, ac mae eu hachos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Cafodd y rheithgor ac eraill yn y llys rybudd am gynnwys y clip cyn ei glywed.

Cafodd ei gymryd oddi ar gamerâu cylch-cyfyng caffi gerllaw safle’r ymosodiad, ar yr adeg pan ddioddefodd Dr Gary Jenkins ymosodiad “creulon”, lladrad, artaith a’i adael i farw, meddai’r erlynydd, gan ddadlau mai trais, homoffobia a bod yn farus oedd y rhesymau am yr ymosodiad.

Yn y clip o 1 o’r gloch y bore, mae modd clywed dyn yn pledio am lonydd, tra bod merch yn mynnu “Arian. Nawr.” cyn bod un o’r dynion – Edwards, sydd ag acen Lerpwl – yn ei sarhau mewn modd homoffobig.

Mae modd clywed Dr Gary Jenkins yn gofyn “Pam?” ac yn gofyn eto am lonydd, cyn bod modd ei glywed yn llefain mewn poen cyn stopio siarad yn llwyr.

Mae modd clywed y ferch eto’n annog y ddau ddyn i barhau â’r ymosodiad, gydag un o’r dynion yn galw ar y llall i “sathru ar ei ben”.

Ymyrryd

Yn ddiweddarach, mae modd clywed Louis Williams, dyn oedd yn mynd heibio ar y pryd, yn ceisio ymyrryd cyn i’r tri ymosod arno.

“Roedd angen hynny arna i,” meddai’r ferch wedyn.

Clywodd y llys fod dyn arall, Owain Williams, wedi ffonio 999 gan ddweud bod “nifer o ddynion” wedi cyflawni ymosodiad yn y parc.

Dywedodd nifer o dystion fod Dr Gary Jenkins wedi mynd i’r parc i geisio “cyswllt rhywiol gyda dynion eraill”, a bod y tri diffynnydd yno i “ladrata oddi ar ddynion hoyw bregus oedd yn y parc i gael rhyw”.

Roedd y tri wedi cyfarfod ac wedi mynd i brynu alcohol o garej Esso cyn mynd i’r parc ger mynedfa’r castell, ac mae camerâu yn dangos eu bod nhw wedi gadael y parc cyn i Strickland ddychwelyd i’r garej i brynu wisgi gan ddefnyddio cerdyn banc Dr Gary Jenkins.

Cafodd yr heddlu hyd i’r cerdyn yn ddiweddarach pan gafodd ei stopio gan yr heddlu.

Mae modd gweld Edwards a’r ferch yn cofleidio ddwywaith cyn mynd i gyfeiriadau gwahanol, lle mae Edwards a Strickland yn cyfarfod a chofleidio a gwenu.

Mae modd gweld Edwards ar ffôn symudol wedyn, cyn taflu’r teclyn i ardd gefn eiddo yn Nhreganna wrth i’r heddlu ei gwrso.

Mae’r tri wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o ddynladdiad, lladrata ac ymosod, ac mae’r achos yn parhau.