Mae Plaid Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sut y bydd Tafwyl yn cael ei “hariannu’n addas” wrth i’r trefnwyr ragweld y bydd y gost o gynnal yr ŵyl yn cynyddu.

Yn ôl Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, mae angen cyllid digonol er mwyn sicrhau bod yr ŵyl – sydd â mynediad am ddim – yn parhau’n “hygyrch gyda nifer o rieni a thrigolion di-Gymraeg a phobol o gefndiroedd ethnig Caerdydd yn mynychu’r ŵyl”.

Mae’n dweud bod Menter Caerdydd yn credu y bydd costau cynnal gŵyl Gymraeg fwya’r brifddinas yn cynyddu ryw 20 y cant o’i chymharu â 2019.

Wrth i Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, gael ei holi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 26), fe ofynnodd Rhys ab Owen beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu “un o uchafbwyntiau’r calendr cymdeithasol” yn y brifddinas.

“[G]yda’r 39,000 o bobol sydd nawr yn mynychu Tafwyl, mae yna gostau ychwanegol, ac rydyn ni’n clywed yn gyson yn y Senedd yma am gostau cyffredinol yn cynyddu,” meddai.

“Mae Menter Caerdydd yn meddwl y bydd cost cynnal Tafwyl eleni yn rhyw 20 y cant yn ddrutach o’i chymharu â 2019.

“Mae’n rhaid i Fenter Caerdydd sicrhau’r arian hwnnw trwy ymgeisio bob blwyddyn am wahanol grantiau, [ac] mae hynny yn ei hunan yn creu ansicrwydd.

“Mae’r ffaith bod mynediad am ddim i Tafwyl yn gwneud yr ŵyl mor hygyrch, gyda nifer o rieni a thrigolion di-Gymraeg a phobol o gefndiroedd ethnig Caerdydd yn mynychu’r ŵyl.

“Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau bod Tafwyl yn parhau yn hygyrch ac yn cael ei ariannu yn addas?”

Ffyniant y Gymraeg yn y brifddinas

Fe ymatebodd Jeremy Miles drwy ddiolch i Rhys ab Owen am y “pitch am fwy o arian i Tafwyl”.

Fe nododd fod Llywodraeth Cymru’n “darparu dros ryw £200,000 y flwyddyn i Fenter Iaith Caerdydd a Menter Bro Morgannwg i’w galluogi nhw i gynnig arlwy o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau yng Nghaerdydd i deuluoedd, plant a phobol ifanc, ac i’r gymuned gyfan, ac mae hynny i’w ddathlu”.

Ychwanegodd ei bod yn “ffantastig” gweld “impact cadarnhaol hynny yn ffyniant yr iaith yn y brifddinas”.

Yn 2013, camodd Llywodraeth Cymru i’r adwy i sicrhau £20,000 o gefnogaeth oherwydd diffyg ariannol yn sgil toriadau arfaethedig gan Gyngor Caerdydd.

Cafodd Tafwyl ei sefydlu yn 2006 ar raddfa sylweddol lai y tu allan i dafarn y Mochyn Du ger canol y brifddinas, ond ers 2012, mae wedi’i chynnal yng Nghastell Caerdydd neu ym Mharc Biwt, ac ym mis Gorffennaf 2017 yng Nghaeau Llandaf ym Mhontcanna.

Y llynedd, cafodd Tafwyl ei chynnal fel un o ddigwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru, gyda 500 o bobol ym muriau’r castell.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Tafwyl:

Mae Menter Caerdydd yn derbyn nawdd wrth Lywodraeth Cymru tuag at Tafwyl yn flynyddol ac rydym yn ddiolchgar am hyn.

“Byddwn yn parhai i weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyllido eraill i ddiogelu bod Tafwyl yn parhau yn ŵyl apelgar, cyffrous a chynhwysol i’r dyfodol.

“Mae cynnydd sylweddol mewn costau seilwaith yn her i bob gŵyl a bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn allweddol i’r dyfodol.”