Mae Pwyllgor Economi’r Senedd yn galw am welliannau brys i fynd i’r afael mewn prinder gyrwyr HGV yng Nghymru.

Fel rhan o’u hargymhellion i Lywodraeth Cymru, mae’r pwyllgor wedi awgrymu camau megis datblygu prentisiaethau i yrwyr HGV, gwella cyfleusterau gorffwys, a gwella cyfleoedd am hyfforddiant.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod sawl ffactor wedi cyfrannu at broblemau gyda chadwynau cyflenwi, gan gynnwys effaith y pandemig a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd effaith y ffactorau hyn ei dwysau gan brinder gyrwyr, a oedd eisoes yn broblem, meddai.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant lorïau HGV wedi croesawu cynllun y Senedd i fynd i’r afael â phrinder gyrwyr, ac yn cydnabod fod y prinder hwnnw’n un o’r prif achosion wrth wraidd y trafferthion gyda’r gadwyn gyflenwi.

Argymhellion

Roedd eu hymchwil yn cynnwys siarad â gyrwyr loriau.

“Mae demograffeg oed gyrwyr nawr yn eu 50au hwyr, felly yn y 10-12 mlynedd nesaf bydd y rhan fwyaf o’r gyrwyr yn y wlad hon wedi ymddeol, pam ar wyneb y ddaear fyddai unrhyw berson ifanc eisiau mynd mewn i’r diwydiant cludo?” meddai un ohonyn nhw.

Dywedodd hefyd fod y swydd yn fudr, y tâl yn wael, a bod pobol yn siarad â nhw fel eu bod nhw’n faw.

“Gorfod aros mewn coridorau oer, tamp, efo drafft, heb unrhyw gyfleusterau wrth i’r warws gymryd oriau i roi tip i chi,” meddai.

Fe wnaeth gyrwyr nifer o gwynion am safon mannau gorffwys ledled Cymru, a chlywodd Aelodau o’r Senedd am achosion rheolaidd o ladrata a bygythiadau o drais.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad o gyfleusterau gorffwys i yrwyr a chreu rhestr genedlaethol debyg i’r hyn sydd ar gael yn Lloegr.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar frys i wella mannau gorffwys i yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac i greu system safonau gwirfoddol sy’n dangos i yrwyr pa mor gyfforddus a pha mor ddiogel yw mannau gorffwys.

Roedd cefnogaeth gref ar gyfer rhaglenni prentisiaethau, ac mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio ar frys gyda’r diwydiant i ddatblygu rhaglenni prentisiaethau.

‘Straeon brawychus’

Dywedodd Paul Davies, cadeirydd Pwyllgor Economi’r Senedd, ei bod hi’n “gwbl glir fod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhan hanfodol o’r cadwyni cyflenwi sy’n cefnogi bron pob agwedd ar fywyd modern”.

“Y llynedd, gwelsom beth sy’n digwydd pan fydd prinder gyrwyr yn achosi i’r cadwyni cyflenwi hyn chwalu – rhai o’r silffoedd yn wag yn ein siopau, rhai gorsafoedd petrol ar gau, a tharfu ar rai gwasanaethau,” meddai’r Aelod Ceidwadol dros Breseli Penfro.

“Y tu ôl i’r prinder mae pobl go iawn sy’n gweithio’n galed iawn i gadw economi Cymru i fynd ac i sicrhau ein bod ni’n cael bwyd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Yn sgil ein hymchwiliad, clywsom straeon brawychus am yr amodau y mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu bob dydd.

“Os nad ydym yn mynd i’r afael â’r materion, nid oes fawr ddim gobaith o recriwtio gyrwyr newydd, felly heddiw rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i wella cyfleusterau gyrwyr ledled y wlad.

“Er mwyn diogelu cadwyni cyflenwi yn y dyfodol, rhaid i’r Llywodraeth a’r diwydiant gydweithio a mynd i’r afael â’r prinder cronig parhaus o ran gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.

“Mae ein hadroddiad yn nodi argymhellion a fydd, yn ein barn ni, yn gwella profiadau, rhagolygon, a’r drefn o ran recriwtio a chadw gyrwyr er mwyn cyrraedd y nod hwnnw a chefnogi ein gyrwyr gwerthfawr.”

‘Rhagweithiol a chynhwysfawr’

Mae cynrychiolwyr y diwydiant wedi croesawu’r argymhellion, gan ddweud eu bod nhw wedi gwrando ar y sector.

Dywedodd Chris Yarsley, Rheolwr Polisi Cymru Logistics UK, sy’n cynrychioli busnesau logisteg sy’n cynnal masnach yn y Deyrnas Unedig, fod cynllun “rhagweithiol a chynhwysfawr” y pwyllgor yn “dangos eu bod nhw wedi gwrando’n ofalus ar bryderon ac awgrymiadau Logistics UK ac wedi mabwysiadu ein cynigion”.

“Roedd y rhain yn cynnwys mesurau i ddatblygu rhaglen brentisiaethau i yrwyr HGV, cynyddu nifer y darparwyr hyfforddiant, a chyflymu datblygiad strategaethau cargo cenedlaethol a rhanbarthol,” meddai.

“Ond yn bwysicach na dim, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi archwiliad cenedlaethol o gyfleusterau gorffwys i yrwyr gyda’r bwriad o wella darpariaeth lle mae diffygion, rhywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano ar ran ein haelodau ers peth amser, gan fod cyfleusterau gwael i yrwyr yn parhau i fod yn rhwystr anferth wrth recriwtio a chadw gyrwyr.

“Mae hi’n hanfodol nawr bod Llywodraeth Cymru’n symud yn sydyn i weithredu’r mesurau hyn, a gweithio’n agos gyda’r diwydiant drwy gydol y broses er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib i gefnogi sector logisteg Cymru a’r economi’n ehangach.”

 

Prinder gyrwyr lorïau yn “effeithio ar fusnesau ledled Cymru” – a’r Senedd am ymchwilio

Sian Williams

“Rwy’n gwybod o brofiad blaenorol y rhwystredigaeth a achosir gan ddiffyg cyfleusterau parcio lorïau yng Nghaergybi”

“Storm berffaith o brinder gyrwyr cludo nwyddau trwm”

Sian Williams

“Beth faswn i’n hoffi ei weld yw cydnabyddiaeth gan y Senedd o bwysigrwydd y diwydiant i economi Cymru”

Ymestyn oriau gyrru gyrwyr lorïau “ddim yn ateb” i broblemau diffyg staff

A Brexit wedi gwneud danfon llwythi i Ewrop yn “ben tost”