Mae mwy na £4.5m yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen sy’n ymchwilio i bobol sydd wedi’u heintio â Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan yn addo y bydd y rhaglen yn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu i leihau’r tebygolrwydd y bydd hyn yn digwydd i ragor o bobol.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod yn brawf o’r angen am ymchwiliad Covid-19 annibynnol i Gymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd y buddsoddiad dros ddwy flynedd yn cefnogi byrddau iechyd ac Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Iechyd i ddatblygu rhaglen o waith ymchwil bwysig a chymhleth i achosion o Covid-19 mewn ysbytai.
“Gyda chyfraddau trosglwyddiad cymunedol yn uchel y tu allan i’r ysbyty yn ystod sawl cyfnod o’r pandemig, bu’n dasg aruthrol ceisio atal COVID-19 rhag cyrraedd ein lleoliadau gofal iechyd a lledaenu i’r rheini sy’n darparu gofal,” meddai llefarydd.
“Gwyddom, mewn rhai achosion, fod cleifion wedi cael niwed neu wedi marw o ganlyniad i ddal COVID-19 yn yr ysbyty, ac rydym yn teimlo dros bawb sydd wedi’u heffeithio gan hyn.
“Rydym yn buddsoddi yn y fframwaith hwn gan ein bod yn benderfynol o ymchwilio i bob achos o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty, a deall pam y digwyddodd hyn fel y gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i’w atal rhag digwydd eto. Oherwydd natur esblygol y pandemig, bydd hefyd yn cael ei adolygu ymhen dwy flynedd.”
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn rhoi mesurau rheoli heintiau trwyadl ar waith ar draws holl leoliadau’r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys mewn ysbytai.
Roedd nifer yr achosion o Covid mewn ysbytai yn cyfrif am tua 1% o’r holl heintiadau Covid-19, meddai’r llefarydd, gan ychwanegu, “yn anffodus iawn, mewn rhai achosion, mae rhai pobol wedi dod i niwed neu wedi marw ar ôl cael Covid-19 mewn ysbytai”.
Ymchwiliad Covid-19 annibynnol i Gymru
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru’n tanlinellu’r angen am ymchwiliad Covid-19 annibynnol i Gymru.
“Mae’n hen bryd i weinidogion ddarparu cyllid i ymchwilio i hyn,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.
“Cymru sydd â chyfradd farwolaethau Covid-19 ucha’r Deyrnas Unedig, ac o ystyried bod chwarter y marwolaethau hyn yn tarddu o ysbytai, mae’n hanfodol eu bod yn destun ymchwiliad, gyda fframweithiau ar waith i leihau’r trosglwyddiad wrth symud ymlaen.
“Pe bai’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd o ddifrif ynghylch nodi a mynd i’r afael â diffygion o ran rheoli heintiau yn ystod y pandemig, yna fydden nhw ddim yn rhwystro’r ymchwiliad Covid-19 sy’n benodol i Gymru yr ydym ni a theuluoedd mewn profedigaeth wedi galw amdano ers tro.”
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu o hyd eu bod nhw am fod yn rhan o ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ynghyd â grwpiau ymgyrchu, hefyd am weld ymchwiliad penodol i Gymru i ddwyn gweinidogion I gyfrif am eu penderfyniadau dros gyfnod y pandemig.