Bydd Mudiad Meithrin yn lansio pecyn hyfforddiant heno (nos Iau, Ionawr 27) er mwyn sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn addysg blynyddoedd cynnar.

Bwriad pecyn Cylch i Bawb yw rhoi hyfforddiant Cymraeg ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gan sicrhau bod yr un croeso ar gael i bawb sydd am fod yn rhan o’r Mudiad Meithrin.

Dyma’r hyfforddiant cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, meddai’r mudiad.

Bydd y pecyn yn edrych ar brofiadau unigolion, ac yn annog pobol i feddwl am eu lle a’r ffordd orau i gynnig gwasanaeth teg sy’n cynnwys pawb.

Dywed James Lusted, hwylusydd y lansiad, ei bod hi’n “fraint” arwain y drafodaeth gan fod cynhwysiant yn bwnc sy’n agos i’w galon.

“Mae gen i brofiad byw o herio rhagfarnau a goresgyn rhwystrau, nid oherwydd fy anallu i ond oherwydd anallu cymdeithas i ystyried pawb, felly rwy’n falch bod Mudiad Meithrin yn blaenoriaethu’r hyfforddiant yma i leoliadau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar,” meddai.

“Dechreuais fy nhaith i fod yn siaradwr Cymraeg pan anfonodd fy rhieni fi i Gylch Meithrin ac mae’n braf gweld bod plant Cymru yn eu holl amrywiaeth yn parhau i gael eu profiadau cyntaf yn y Gymraeg drwy ddarpariaethau Mudiad Meithrin.”

‘Y Gymraeg yn perthyn i bawb’

Mae’r mudiad am sicrhau bod cyfle i addysgu holl staff y Cylch a phwyllgorau rheoli lleol am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ôl Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant ac Academi’r Mudiad Meithrin.

“Mae Cylch i Bawb yn adnodd arbennig sy’n dathlu amrywiaeth ac yn rhoi sylfaen gadarn i faterion cydraddoldeb yn y Cylch,” meddai.

“Rydyn ni fel Mudiad yn falch iawn o’r pecyn dysgu newydd yma sydd wedi ei greu ar y cyd â’n staff ac ymarferwyr.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, a chredwn fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg, ac felly yn y Cylch Meithrin hefyd – rydyn ni’n croesawu pob plentyn bach i fwynhau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn ein lleoliadau.

“Mae’n flaenoriaeth i ni fel sefydliad i sicrhau fod adnoddau dysgu a datblygu addas, cywir ac o safon uchel ar gael i’n hymarferwyr i gyd.”

‘Gweld yn gyfartal’

Wan Toone

Mae Wan Toone yn ymarferydd yng Nghylch Meithrin Treffynnon, ac mae hi’n ymddangos yn un o’r ffilmiau sy’n rhan o’r pecyn.

“Rwyf wedi bod yn Arweinydd Cylch Meithrin Treffynnon bellach ers 2009,” meddai.

“Mae’r swydd wedi rhoi llawer o gyfleoedd a hyder i mi ddefnyddio fy Nghymraeg.

“Mae’r plant yn fy ngweld yn gyfartal i ymarferwyr eraill; mae hyn yn ei gwneud hi’n yn haws i blant o wahanol hil ac ethnigrwydd gydnabod eu bod nhw hefyd yn gyfartal ymhlith eu cyfoedion.

“Rwy’n meddwl y bydd Cylch i Bawb yn ychwanegiad gwych at yr hyfforddiant sydd eisoes ar gael gan Mudiad Meithrin.”

Bydd y lansiad yn cychwyn am 7 o’r gloch heno (nos Fercher, Ionawr 27), ac yn cynnwys trafodaeth gan banel o arbenigwyr yn y maes a siaradwyr gwadd.

Mae’n bosib i unrhyw un ymuno â’r digwyddiad rhithiol, a chofrestru drwy wefan y mudiad.