Mae’r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru wedi cyhoeddi negeseuon ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost.

Diwrnod Cofio’r Holocost yw’r diwrnod i bawb gofio’r miliynau o Iddewon a gafodd eu lladd o dan law’r Natsïaid, ac yn yr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia, a Darfur.

Rhwng 1941 a 1945, cafodd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig eu lladd gan y Natsïaid.

Mae heddiw’n nodi 77 mlynedd ers i Iddewon yng ngwersyll Auschwitz-Birkenau gael mynd yn rhydd.

‘Cymru’n sefyll gyda’i gilydd’

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru ac arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, wedi cyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Heddiw ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, mae Cymru’n sefyll gyda’i gilydd i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau ledled y byd,” meddai.

“Rwy’n falch o ba mor amrywiol yw Cymru – lle gall pawb fyw gyda’i gilydd yn ddiogel a chyflawni eu potensial.”

‘Dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol’

Dywed Andrew RT Davies “na ddylem fyth adael i’r goleuni o goffáu dywyllu, a’n dyletswydd ni yw dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol a sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu hailadrodd.”

“Ac mae’n bwysig nawr yn fwy nag erioed i gofio a dysgu o ystyried ymchwil frawychus yn 2019 a ddatgelodd fod un ym mhob 20 o oedolion yn y Deyrnas Unedig o’r farn nad oedd yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi digwydd,” meddai.

“Mae hyn wedi cyd-daro â’r cynnydd annymunol iawn mewn gwrth-semitiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar draws y Deyrnas Unedig.

“Rhaid i hyn ddod i ben, a rhaid inni barhau i’w alw allan lle bynnag y bo.

“Wrth i wasanaethau coffa gael eu cynnal ledled y wlad heddiw, byddwn yn cofio dioddefwyr diniwed yr Holocost ac yn ailymrwymo i fynd i’r afael â phob math o hiliaeth a rhagfarn.”

Cofio’r goroeswyr

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod yna gyfle i ni “feddwl am ein cyfrifoldebau fel unigolion, dinasyddion a chenhedloedd i fod yn oddefgar o’n gilydd a pharchu eraill”.

“Tros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y math o wleidyddiaeth sy’n ennyn atgofion am hen Ewrop hyll,” meddai.

“Yn sgil hyn, mae’n rhaid inni i gyd barhau i hyrwyddo gwlad sy’n agored, yn oddefgar ac yn unedig.

“Eleni rydym yn cofio’r goroeswyr, sydd dro ar ôl tro yn dangos urddas a dewrder wrth iddynt ailadeiladu ac adfer eu cymunedau o’r adfeilion.”

Parch ac undod

“Ar ddiwrnod Cofio’r Holocaust, cofiwn y rhai gafodd eu llofruddio am bwy oedden nhw,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd.

“Safwn yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw a phob diwrnod arall.”

Yn ôl Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, mae angen dangos undod a diwylliant o barch.

“Waeth beth yw ein credoau, ein lliw neu ein cenedligrwydd, mae diwylliant o barch yn un y dylem ei gael at bawb,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni fel cymuned yn dod at ein gilydd i ddangos undod.”