Mae arolwg wedi canfod fod brand cig oen o Gymru yn sylweddol uwch ei barch na chig sy’n cario baner Jac yr Undeb.

Mae hefyd yn cael ei gydnabod yn eang gan gwsmeriaid fel bwyd sy’n cael ei gynhyrchu mewn modd amgylcheddol gynaliadwy.

Daw hyn wrth i ffair fwyd Blas Cymru agor ei drysau.

Canfu’r arolwg o 1,000 o bobol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig pa fath o gig oen sy’n blasu orau, gyda dwywaith cymaint o bobol yn dweud Cig Oen Cymru (47%) na chig oen o Brydain (23%).

Roedd 56% o’r farn y byddai’r bwytai gorau yn gweini Cig Oen Cymru, a sgoriodd Cig Oen Cymru yn arbennig o uchel o ran canfyddiadau defnyddwyr o’i rinweddau amgylcheddol a’i ddulliau ffermio.

Mae’r ffigurau yn hwb i Hybu Cig Cymru, y sefydliad sy’n hyrwyddo brand Cig Oen Cymru er 2003.

‘Brand Cymreig unigryw’

“Ein strategaeth fu chwarae ar gryfderau Cig Oen Cymru – ei ansawdd, ymddiriedaeth yn ein dulliau ffermio, a’r ffordd gynaliadwy y mae’n cael ei gynhyrchu,” meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu Marchnad Hybu Cig Cymru.

“Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn dangos bod y neges yn cyrraedd pobol ledled Prydain, gyda’r canlyniad fod brand Cig Oen Cymru yn gryf iawn.

“Mae’n bwysicach nag erioed fod cwsmeriaid yn gwybod fod ffordd Cymru o fagu da byw yn wahanol iawn i rai o’r arferion dwys dramor.

“Mae Cig Oen Cymru mewn sefyllfa dda iawn ar gyfer y dyfodol, o ystyried bod y canlyniadau mor galonogol yn yr arolwg hwn ar faterion fel cynaliadwyedd a lles anifeiliaid.

“Rydyn ni wedi gweld cefnogaeth dda iawn i Gig Oen Cymru gan gwmnïau manwerthu yn ystod y misoedd diwethaf, gyda nifer o siopau premiwm yn cynyddu eu pryniant a’u marchnata.

“Mae cwsmeriaid a manwerthwyr fel ei gilydd yn gweld gwerth yn y brand Cymreig unigryw.”