Gallai Boris Johnson wynebu aelodau seneddol tros adroddiad i bartïon yn Rhif 10 Downing Street cyn i’r wythnos ddod i ben, yn ôl un o weinidogion y Cabinet.

Mae Rhif 10 wedi paratoi ar gyfer canlyniadau’r ymchwiliad a allai bennu dyfodol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Roedd disgwyl i adroddiad gan yr uwch was sifil Sue Gray gael ei drosglwyddo i Downing Street ddoe (dydd Mercher, Ionawr 26) ond roedd adroddiadau’n awgrymu bod y ddogfen derfynol yn dal i gael ei ystyried dros nos.

Dydy hi ddim yn glir beth mae’r ymchwiliad wedi’i ddarganfod, ond daeth awgrym o ba mor niweidiol y gallai fod i’r Llywodraeth pan gyhoeddodd y Fonesig Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain, fod ymchwiliad heddlu’n cael ei gynnal, yn rhannol ar dystiolaeth a ddaeth yn sgil ymchwiliad Gray.

“Fe wnes i ei ddarllen efallai mai diwedd yr wythnos fydd hi, ond gallai fod yn gynnar yr wythnos nesaf. Gadewch i ni aros i weld,” meddai Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes San Steffan wrth ITV.

Dywed ei fod “100% y tu ôl i’r Prif Weinidog”, a nododd dro ar ôl tro ei fod wedi’i rwymo gan y cod gweinidogol.

Yn gynharach, yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, awgrymodd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, fod Boris Johnson wedi camarwain y Senedd am bartïon yn Rhif 10, rhywbeth a fyddai fel arfer yn golygu bod gweinidog yn ymddiswyddo.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai’n rhoi’r gorau iddi, dywedodd y Prif Weinidog, “Na.”

“Wrth gwrs ei fod e fy eisiau i allan o’r ffordd – mae e, ac wrth gwrs dydw i ddim yn gwadu, am bob math o resymau, efallai y bydd llawer o bobol fy eisiau i allan o’r ffordd.”

‘Angen newid’

Dywed Mark Logan, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd-ddwyrain Bolton, fod angen newid er ei fod yn cefnogi Boris Johnson.

“Mae’n rhaid cael newid enfawr,” meddai wrth Sky News.

“Mae’n rhaid i agwedd y Prif Weinidog newid, mae’n rhaid newid y dull gweithredu a newid enfawr i’r seilwaith o amgylch y Prif Weinidog.”

Pan gaiff adroddiad Gray ei gyhoeddi, mae ffynonellau sy’n agos at y tîm ymchwilio yn disgwyl iddo gael ei gyhoeddi’n llawn, er mai mater i Boris Johnson yw penderfynu yn y pen draw.

Dywed Downing Street mai’r “bwriad” yw cyhoeddi’r adroddiad yn y fformat y mae Boris Johnson yn ei dderbyn.

“Mae’n adlewyrchiad o’r ffaith nad ydym wedi derbyn y canfyddiadau ac nad ydym yn gwybod ei fformat, dyna pam mae’n parhau i fod yn fwriad gennym ei gyhoeddi fel y’i derbyniwyd,” meddai llefarydd swyddogol y Prif Weinidog.

Gallai Llafur ddefnyddio gweithdrefnau seneddol mewn ymgais i orfodi cyhoeddi adroddiad llawn Gray os nad yw Boris Johnson yn ei gyhoeddi.