Mae disgwyl i ddyn fynd gerbron y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio ei chwaer.

Bydd Matthew Selby yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug heddiw, lle mae gofyn iddo gyflwyno ple i’r cyhuddiad.

Bu farw Amanda Selby, 15, ar Orffennaf 31 y llynedd ym Mharc Gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn, mewn carafán.

Aeth Selby o Ashton-Under Lyme ym Manceinion Fwyaf gerbron y llys ym mis Tachwedd y llynedd, lle’r oedd yn gwadu’r cyhuddiad.

Dyn gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio merch, 15, mewn carafán ger Abergele

Matthew Selby o Fanceinion wedi’i gadw yn y ddalfa

Dyn 19 oed yn y llys wedi’i gyhuddo o ladd ei chwaer

Matthew Selby o Fanceinion wedi ei gyhuddo o ladd ei chwaer 15 oed mewn parc carafannau ger Abergele ym mis Gorffennaf