Fe fyddai Rwsia’n wynebu “sancsiynau difrifol” pe bai’n ymosod ar yr Wcráin, meddai Ysgrifennydd Tramor Prydain, Liz Truss.
Daw hyn wrth i densiynau rhwng y ddwy wlad barhau i gynyddu.
Mae Rwsia, sy’n gwadu cynlluniau i ymosod, wedi anfon tua 100,000 o filwyr i’r ffin gyda’r Wcráin.
Mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi 8,500 o filwyr ar rybudd, tra bod Boris Johnson wedi dweud y byddai Prydain yn fodlon anfon milwyr i’r ardal er mwyn cefnogi lluoedd Nato.
Mae aelodau o gynghrair Nato, gan gynnwys Denmarc, Sbaen, Bwlgaria a’r Iseldiroedd, yn anfon mwy o awyrennau rhyfel i Ddwyrain Ewrop i gryfhau amddiffynfeydd yn y rhanbarth.
Mae Rwsia wedi dweud fod hyn yn peri “pryder mawr”.
Rhybuddiodd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ddydd Llun (24 Ionawr) y byddai ymosodiad yn “boenus, treisgar, a gwaedlyd”, ond dywedodd Volodymyr Zelenskyy, Prif Weinidog yr Wcráin, fod y sefyllfa dan reolaeth, ac nad oes angen mynd i banig.
“Sancsiynau difrifol”
Dywedodd Liz Truss wrth Sky News: “Rydym eisoes yn rhoi cymorth i’r Wcráin. Rydym yn cyflenwi arfau amddiffynnol. Rydym yn darparu cymorth economaidd.
“Rydym yn annog Rwsia i ymatal rhag ymosod ac rydym yn ei gwneud yn glir iawn pe bae nhw’n gwneud hynny y byddai cost economaidd ddifrifol i Rwsia – sancsiynau difrifol.”
Ychwanegodd y gallai’r sancsiynau “dargedu unigolion, byddent yn targedu sefydliadau ariannol a byddent yn cael eu cydgysylltu â’n holl gynghreiriaid ledled Ewrop, yr Unol Daleithiau ac eraill.”
Pan ofynnwyd a fyddai’r Llywodraeth yn cefnogi sancsiynau unigol yn erbyn yr Arlywydd Vladimir Putin, dywedodd Liz Truss nad oedd yn “diystyru unrhyw beth”.
“Nid ydym yn diystyru unrhyw beth a fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd i wneud ein sancsiynau yn fwy llym fel bod modd targedu mwy o gwmnïau ac unigolion yn Rwsia,” meddai.
Cefndir
Mae’r tensiynau rhwng y ddwy wlad yn deillio o 2014 yn bennaf, ar ôl i Rwsia gipio a meddiannu’r Crimea – darn o dir yn yr Wcráin.
Yn y rhyfel sydd wedi torri ers hynny, mae bron i 14,000 o bobl wedi marw ar y ddwy ochr, gyda mwy o rannau o’r Wcráin yn cael eu rheoli gan Rwsia neu grwpiau o blaid Rwsia erbyn hyn.