Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru heddiw (dydd Mercher, 26 Ionawr).

Maent yn rhybuddio y gall cenhedlaeth gyfan “gael ei cholli i’r cyfyngiadau symud” os nad yw Llywodraeth Cymru yn gweithredu.

Yn y Senedd y prynhawn yma, bydd y Gweinidog Addysg Cysgodol Laura Anne Jones AoS yn arwain dadl sy’n cynnig, fod gweinidogion yn:

  • Gwarantu bod ysgolion yn parhau i fod ar agor;
  • Dileu’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau cyn gynted â phosibl;
  • Cyflymu’r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu;
  • Ariannu ysgolion lefel i fyny ledled Cymru i fynd i’r afael â’r diffyg gyda chenhedloedd eraill Prydain.

Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd Laura Anne Jones: “Mae’r ieuengaf yn ein cymdeithas wedi aberthu cymaint yn ystod y pandemig i amddiffyn eraill ar gost enfawr i’w cyfleoedd bywyd eu hunain.

“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cadw ar agor o dan amgylchiadau arferol.

“Hefyd, er bod mygydau wedi chwarae rhan yn y pandemig hwn, nid oes eu hangen mewn ysgolion bellach: nid ydynt yn gwneud fawr o wahaniaeth i atal trosglwyddo Covid-19, ac eto gallant gael effaith negyddol iawn ar ddysgwyr a dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

“Mae tystiolaeth Llywodraeth Prydain a chynghorydd gwyddonol Cymru ei hun yn dweud yr un peth, felly os yw Mark Drakeford yn dweud ei fod yn dilyn y wyddoniaeth, yna mae’n rhaid iddo gael gwared ar y rheol gwisgo mygydau mewn ystafell ddosbarth nawr.

“Dylai Llafur nawr ddefnyddio’r cyfle hwn i ddefnyddio’r cynnydd mwyaf erioed yn y gyllideb sydd wedi dod gan Lywodraeth Geidwadol Prydain i wella addysg yng Nghymru drwy fynd i’r afael â thanariannu ysgolion a dadwneud difrod y cyfyngiadau symud, gan sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.

“Mae’n bryd i Lafur fynd i’r afael â’r problemau cronig sy’n wynebu ein hysgolion, boed hynny’n gost athrawon cyflenwi, y cynnydd dychrynllyd mewn addysg gartref neu ddiffyg arweiniad a chefnogaeth a roddir i’n hathrawon i helpu i gyflwyno’r cwricwlwm newydd.

“Mae’n bryd cael diwygio a gweithredu pendant gan weinidogion Llafur.”