Mae Cadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin yn dweud bod y Prif Weinidog yn meddwl ei fod “uwchlaw’r gyfraith” gan ei ddisgrifio’n “gwbl anobeithiol”.
Daw sylwadau’r AS Llafur dros y Rhondda, Chris Bryant wrth i adroddiad Sue Gray gael ei gyhoeddi heddiw (26 Ionawr) sy’n ymchwilio i bartïon honedig yn Downing Street dros y cyfnod clo.
Mae disgwyl i Boris Johnson wynebu sesiwn heriol o Gwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.
Mae’r arweinydd Llafur, Keir Starmer, yn dweud bod Llywodraeth y Prif Weinidog yn “ddigyfeiriad” ac mae’n “rhaid iddo fynd” yn sgil sgandal am bartïon yn Rhif 10.
Wrth siarad ar raglen Today BBC Radio 4 fe ddywedodd Chris Bryant fod “awdurdod moesol” y Prif Weinidog wedi “erydu’n llwyr”.
“Dyma pam ei bod yn gwbl anobeithiol ein bod wedi gorfod mynd drwy hyn i gyd, oherwydd mae gennych erydiad llwyr awdurdod moesol y Prif Weinidog yn sgil yr ymddygiad hwn,” meddai.
“Mae mor amharchus i’r gyrwyr bysiau, y nyrsys yn yr Unedau Gofal Dwys a phawb arall ac mae ASau Torïaidd yn mynd ar raglenni ac yn dweud ‘Wel, yr holl bobl hyn yn Downing Street, rydym yn gweithio’n ofnadwy o galed.’
“Wel, mae’n ddrwg gen i, roedd pawb yn gweithio’n galed iawn.”
Fe ddywedodd fod gweithredoedd y Prif Weinidog yn rhan o “batrwm o ymddygiad” tra bod teuluoedd ar draws y wlad wedi cael eu gorfodi i “wneud heb”.
“Mae’n ymddangos bod cynghreiriaid Boris Johnson yn credu bod y cyhoedd ym Mhrydain yn hollol dwp,” meddai.
“Y gwir amdani yw bod hwn yn batrwm o ymddygiad.
“Nid dim ond un digwyddiad ydyw, mae’n ddwsinau o ddigwyddiadau, a gall pob un ohonom adrodd eiliad pan oedd yn rhaid i aelod o’r teulu wneud heb.”
Fe fynegodd ei ddicter gyda’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi delio â’r cyhuddiadau am bartïon anghyfreithlon ar gyfnod ble mae argyfwng rhyngwladol yn datblygu yn y Wcráin.
“Roeddwn i yn y Wcráin yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n credu bod pobl yn ofnus am eu bywydau ac mae’n fy ngwneud yn ddig bod y Prif Weinidog yn credu ei fod uwchlaw’r gyfraith.”
Mae Boris Johnson a ffigurau allweddol eraill yn ei Lywodraeth wedi cael eu gweld yn cyrraedd Rhif 10 Downing Street y bore yma.
Roedd llawer o ASau Toriaidd wedi dweud y byddent yn aros am adroddiad Sue Gray cyn penderfynu a ddylid ceisio cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder.
Mae’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss yn dweud nad yw Rhif 10 wedi derbyn yr adroddiad hyd yn hyn gan ddatgan ei chefnogaeth lawn i Boris Johnson.
Mae Heddlu’r Metropolitan bellach wedi dechrau ei ymchwiliad ei hun i’r digwyddiadau.