Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym Manceinion fel rhan o ymchwilid i ymosodiad ar synagog yn Texas.

Cafodd Malik Faisal Akram, 44, a oedd yn dod yn wreiddiol o Blackburn yn Swydd Lancashire, ei saethu’n farw gan yr FBI yn y synagog yn Colleyville ar 15 Ionawr.

Fe wnaeth Malik Faisal Akram gadw pedwar person yn wystlon am 10 awr, ond cafodd y pedwar eu rhyddhau yn ddiweddarach yn ddi-anaf.

Mewn datganiad heddiw (26 Ionawr), dywedodd Heddlu Gwrth- frawychiaeth y Gogledd Orllewin eu bod nhw’n parhau â’u hymchwiliad yn dilyn y digwyddiad yn Texas.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag awdurdodau’r gyfraith yn yr Unol Daleithiau, ac yn eu cefnogi,” meddai’r heddlu.

“Fel rhan o’r ymchwiliad lleol, mae dau ddyn wedi cael eu harestio fore heddiw ym Manceinion. Maen nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa ar gyfer eu holi.

“Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos â chydweithwyr mewn lluoedd eraill.”

“Gweithred o derfysg”

Cafodd dau ddyn eu harestio ym Manceinion a Birmingham ar 20 Ionawr fel rhan o’r un ymchwiliad, cyn cael eu rhyddhau o’r ddalfa heb unrhyw gamau pellach.

Mae cyfarwyddwr yr FBI, Christopher Wray, wedi galw’r digwyddiad yn un gwrth-semitaidd, a dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, ei fod yn “weithred frawychol”.

Mewn cynhadledd i’r wasg yn Texas ddydd Gwener diwethaf (21 Ionawr), dywedodd yr FBI nad oedden nhw’n gyfarwydd â Malik Faisal Akram ac nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad blaenorol â gwasanaethau cudd yr Unol Daleithiau.

Dywedodd yr FBI eu bod nhw’n dadansoddi ei gysylltiadau, ei bresenoldeb ar-lein a’i ddyfeisiadau’n “fanwl”.

Fe wnaeth Malik Faisal Akram deithio i Efrog Newydd ar 29 Rhagfyr, cyn teithio i Texas a mynd i Synagog Congregation Beth Israel.

Bu Malik Faisal Akram dan ymchwiliad MI5 yn 2020 ond ar y pryd penderfynwyd nad oedd yn fygythiad credadwy i ddiogelwch cenedlaethol, meddai ffynonellau swyddogol wrth asiantaeth newyddion PA.

Yn ôl adroddiadau, roedd ganddo record droseddol a dydy hi ddim yn amlwg sut y llwyddodd i deithio i’r Unol Daleithiau oherwydd hynny.

Mae’r FBI wedi dweud eu bod nhw’n “gweithio’n galed” i ddysgu mwy am sut y cafodd afael ar y dryll oedd yn ei feddiant.