Bydd mam merch fuodd farw ar ôl pwl difrifol iawn o asthma yn annog y Senedd i wneud aer Cymru’n saffach heddiw (26 Ionawr).

Bu farw Ella Roberta, merch Rosamund Kissi-Debrah, yn naw oed yn 2013, a’i thystysgrif marwolaeth yw’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig i grybwyll llygredd aer.

Byddai Ella Roberta, a oedd yn byw yn Llundain, wedi troi’n 18 ddydd Llun (Ionawr 24).

Bydd Rosamund Kissi-Debrah yn annog aelodau’r Senedd i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru “er mwyn gwneud yr aer yn ddiogel i’n plant – ac i ni gyd” yn ystod cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ddeddf Aer Glân.

Fe wnaeth cwest i farwolaeth ei merch ddarganfod bod y lefelau o nitrogen deuocsid ger cartref Rosamund Kissi-Debrah yn anghyfreithlon ac yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a’r Undeb Ewropeaidd.

‘Argyfwng i’r cyhoedd’

Ar ôl marwolaaeth Ella Roberta, sefydlodd ei mam yr Ella Roberta Family Foundation er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion ynghylch asthma a llygredd aer.

“Mae llygredd aer yn effeithio pob organ yn ein corff, felly mae hwn yn argyfwng i’r cyhoedd,” meddai Rosamund Kissi-Debrah.

“Allwn ni ddim osgoi’r ffaith ein bod ni’n dal i aros i’r llywodraeth weithredu naw mis ar ôl argymhelliad y crwner.”

‘Bywydau plant yn y fantol’

“Yn anffodus, mae Rosamund Kissi-Debrah yn gwybod yn uniongyrchol pam bod rhai i awyr lân, iach fod yn brif flaenoriaeth i ni,” meddai Huw Irranca-Davies, cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddeddf Aer Glân i Gymru yn y Senedd.

“Rydyn ni’n eithriadol o ddiolchgar am ei chefnogaeth.

“Gadewch i ni gael ein hysbrydoli gan yr hyn mae hi wedi llwyddo i’w wneud.

“Dw i’n annog aelodau’r Senedd i wrando ar ei phrofiad.

“Mae bywydau plant fel Ella Roberta yn y fantol, felly gadewch i ni weithredu gyda’n gilydd a sicrhau bod llygredd aer yn perthyn i’r gorffennol.”

‘Achub bywydau’

Ychwanegodd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru bod stori Rosamund, a sut y gwnaeth hi ymladd er mwyn cael llygredd aer wedi’i restru ar dystysgrif ei merch, “yn gwneud i chi sylwi beth allwn ni lwyddo i’w wneud pan rydyn ni’n cael ein symud gan yr angen i wneud y peth iawn ac achub bywydau”.

“Y realiti trist yw ei bod hi’n debyg bod yna blant yng Nghymru sydd ag asthma wedi’i achosi gan lygredd aer, a dyna pam ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n addysgu pawb am beryglon aer wedi’i lygru, a mynnu bod ein gwleidyddion yn dod ynghyd i gael Deddf Aer Glân i Gymru cyn gynted â phosib,” meddai.

Mae llygredd aer yn cyfrannu tuag at 1,400 o farwolaethau cynnar yng Nghymru bob blwyddyn, ac yn costio bron i £1bn i’r Gwasanaeth Iechyd yn flynyddol.

Deddf Aer Glân

Bythefnos yn ôl, rhybuddiodd Awyr Iach Cymru y bydd hi’n anodd i’r wlad gwrdd â chyfyngiadau newydd ar lygredd aer heb weithredu radical.

Bryd hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod eu Cynllun Aer Glân yn dweud sut maen nhw am weithio ar y cyd ar draws sectorau a gyda’r cyhoedd, i roi polisi, deddfwriaeth, rheoliadau a buddsoddiad newydd ar waith i leihau llygredd aer yn unol â’r safonau ansawdd aer rhyngwladol uchaf.

“Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, ochr yn ochr ag ategu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur,” meddai.

“Mae llawer o gamau gweithredu yn y cynllun yn cefnogi creu llefydd cynaliadwy drwy well cynllunio, seilwaith a thrafnidiaeth.

“Dim ond un rhan o’r Cynllun yw’r Ddeddf Aer Glân ar gyfer Cymru ac, fel y nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Deddf Aer Glân ar gyfer Cymru, sy’n ystyried Canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

“Rhaid i ni ganiatáu digon o amser i weithio gyda’r holl randdeiliaid yn ysbryd partneriaeth a chydweithredu cymdeithasol i gael ein deddfwriaeth yn iawn.

“Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol ein rhaglen ddeddfwriaethol blwyddyn gyntaf uchelgeisiol ym mis Gorffennaf y llynedd a bydd cyhoeddiad ar flynyddoedd y dyfodol yn cael ei wneud gan y Prif Weinidog maes o law.”

‘Lladdwr distaw’: mynd i’r afael â llygredd aer yn un o’r “heriau mwyaf cymhleth” sy’n wynebu Cymru

Elusennau’n rhybuddio bod rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu’r gwaith o gyflwyno Deddf Aer Glân