Mae Boris Johnson yn wynebu rhagor o gwestiynau fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i bartïon yn Rhif 10, wrth iddo baratoi i dderbyn adroddiad i’r digwyddiadau yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street nad oedd Sue Gray wedi anfon casgliadau ei hadroddiad hyd yn hyn ac mae adroddiadau’n awgrymu y gallai eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 26 Ionawr) mewn pryd ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog, neu ddydd Iau.

Mae Sue Gray wedi bod yn ymchwilio i honiadau o dorri rheolau’r coronafeirws drwy gynnal partïon yn Rhif 10 ac roedd disgwyl i’r adroddiad gael ei gwblhau’r wythnos hon.

Daw hyn wrth i’r heddlu hefyd lansio eu hymchwiliad eu hunain i nifer o ddigwyddiadau yn Rhif 10 ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth yn sgil ymchwiliad Sue Gray.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Llundain, y Fonesig Cressida Dick, fod ymchwiliadau i honiadau hanesyddol o dorri rheoliadau Covid wedi’u cynnal yn yr achosion “mwyaf difrifol”, a phan ystyriwyd y dylai’r rhai dan sylw “fod wedi gwybod bod yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud yn drosedd.”

Mae llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wedi awgrymu y byddai Boris Johnson yn barod i siarad â’r rhai yn Scotland Yard sy’n ymchwilio i achosion honedig o dorri rheolau coronafeirws dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ond ychwanegodd nad oedd Boris Johnson yn credu ei fod wedi torri’r gyfraith.

Mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo tra bod eraill wedi dweud y byddan nhw’n aros nes bod ymchwiliad Sue Gray wedi’i gyhoeddi cyn dechrau’r broses o bleidlais o ddiffyg hyder.

Mae’n ymddangos bod y Cabinet yn gefnogol o Boris Johnson gydag un gweinidog yn awgrymu y byddai disodli’r Prif Weinidog yn debygol o arwain at etholiad cyffredinol.