Bydd trafodaethau brys yn cael eu cynnal rhwng gwleidyddion o Rwsia a’r Unol Daleithiau yn y Swistir yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Ionawr 21).

Daw hyn yn sgil pryderon y bydd y Rwsia yn anfon milwyr dros y ffin i’r Wcráin, gan sbarduno rhyfel rhwng y ddwy wlad.

Er bod gan Rwsia 100,000 o filwyr ar bwys y ffin, maen nhw’n honni nad oes cynlluniau i’w chroesi, ar ôl i Antony Blinken, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, rybuddio y byddai canlyniadau difrifol o wneud hynny.

Bydd yn cyfarfod â Sergey Lavrov, gweinidog tramor Rwsia, yn Genefa brynhawn heddiw.

Cefnogaeth yr Unol Daleithiau

Mae’r tensiynau rhwng y ddwy wlad yn deillio o 2014 yn bennaf, ar ôl i Rwsia gipio a meddiannu’r Crimea – darn o dir yn yr Wcráin.

Yn y rhyfel sydd wedi torri ers hynny, mae bron i 14,000 o fywydau wedi eu colli ar y ddwy ochr, gyda mwy o rannau o’r Wcráin yn cael eu rheoli gan Rwsia neu grwpiau pro-Rwsia erbyn hyn.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Antony Blinken ymweld â phrifddinas yr Wcráin, Kyiv, er mwyn trafod y sefyllfa gyda Volodymyr Zelensky, arlywydd yr Wcráin.

Dywedodd gweinyddiaeth Joe Biden ei bod yn darparu 200 miliwn o ddoleri ychwanegol (£147 miliwn) mewn cymorth milwrol i’r wlad.

Fe gadarnhaodd un o uwch swyddogion gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau fod y cymorth wedi’i gymeradwyo ddiwedd mis Rhagfyr fel rhan o ymdrechion yr Unol Daleithiau i helpu’r Wcráin i ddiogelu ei hun.

Ond roedd Vladimir Putin, arlywydd Rwsia, yn mynnu na ddylai arfau gael eu hanfon i ddwyrain Ewrop ac y dylai NATO roi’r gorau i ymarferion milwrol yno.

Mae hefyd yn dweud bod gan y wlad yr hawl i ddefnyddio ei lluoedd lle bynnag y mae’n mynnu ar ei thiriogaeth ei hun, ac na fyddan nhw’n eu symud oddi wrth y ffin.

‘Penbleth ofnadwy’

Roedd Liz Truss, Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig, hefyd wedi galw ar Vladimir Putin i ystyried yn ofalus y goblygiadau o anfon milwyr i’w Wcráin.

Yn ôl The Independent, bydd Truss yn gwneud araith yn Awstralia heddiw yn nodi nad yw’r wlad wedi dysgu gwersi o gyfnod yr Undeb Sofietaidd, ac y byddai rhyfel yn arwain at “benbleth ofnadwy a cholledion bywydau”.

Bydd hi’n galw ar wledydd fel Awstralia, Israel a Japan i ochri gyda gwledydd gorllewinol yn erbyn bygythiad Rwsia.