Mae Mark Drakeford wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o lacio cyfyngiadau Covid Lloegr yn rhy sydyn er mwyn tynnu sylw oddi ar eu “trafferthion”.
Wrth siarad â BBC Breakfast fore heddiw (dydd Gwener, Ionawr 21) dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn “hyderus” ei bod hi’n ddiogel i godi cyfyngiadau ar gyfer chwaraeon a lletygarwch tu allan.
O heddiw, bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored, a fydd dim cyfyngiadau ar gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Bydd y rheol chwech a gorfod cadw pellter yn cael eu dileu ar gyfer lletygarwch awyr agored.
Mae disgwyl i glybiau nos ailagor, ac i bellter cymdeithasol a’r rheol chwech gael eu dileu mewn lleoliadau lletygarwch dan do ar Ionawr 28.
Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd yr holl fesurau Covid a gafodd eu cyflwyno i fynd i’r afael ag amrywiolyn Omicron yn Lloegr – gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau, cyngor i weithio gartref, a phasys Covid – yn cael eu dileu yr wythnos nesaf.
‘Troi eu cefnau ar wyddoniaeth’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “troi eu cefnau” ar wyddoniaeth “ers amser hir” wrth osod y rheolau, yn ôl Mark Drakeford.
“Dw i ddim yn credu bod unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi troi eu cefnau ar unrhyw deimlad ei bod hi’n dilyn y wyddoniaeth ers amser hir,” meddai wrth BBC Breakfast.
“Mae hi’n llywodraeth sy’n llawn trafferthion y mae hi wedi’u creu, ac sy’n chwilio’n barhaus am bennawd fyddai’n tynnu sylw pobol oddi ar y llanast mawr y mae hi ynddo.”
Dywedodd wrth Sky News fod y gwahaniaethau rhwng agwedd Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi bod yn “eithaf amlwg yr wythnos hon”.
“Dydyn nhw ddim yn rhan o gynllun sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, maen nhw’n ymdrech gan weinidogion y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i bennawd gwahanol i’r un sydd wedi meddiannu’r newyddion,” meddai am reoliadau Lloegr.
“Yma yng Nghymru, rydyn ni mewn sefyllfa well na hynny – mae ein Llywodraeth yn gallu parhau i wneud penderfyniadau synhwyrol, sydd wedi’u cynllunio a’u seilio ar wyddoniaeth, a pharhau i gadw pobol Cymru’n ddiogel.”
‘Cwffio fel ffuredau’
Fydd Boris Johnson “fyth yn dianc rhag y difrod” sydd wedi’i wneud i’w enw da yn sgil y partïon gafodd eu cynnal yn Rhif 10, meddai Mark Drakeford wedyn.
“Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi bod yn cwffio fel ffuredau mewn sach yr wythnos hon, ac mae hi’n anodd gweld sut mae’r Prif Weinidog am oroesi,” meddai wrth Sky News.
“Hyd yn oed pe bai’n goroesi, bydd e’n hercian ymlaen gan nad yw e fyth am ddianc rhag y difrod sydd wedi’i wneud i’w enw da’r wythnos hon.
“O’m safbwynt i, yr hyn sy’n fy mhoeni fwyaf yw’r ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i rhewi gan effaith yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.
“Dydyn nhw ddim am allu gwneud y mathau o benderfyniadau y byddech chi’n eu disgwyl i’r Llywodraeth eu gwneud, oherwydd mae popeth yn cael ei weld drwy’r lens hwn, yr ymdrech i drio amddiffyn y Prif Weinidog rhag yr ymosodiadau arno gan ei ochr ei hun.
“Mae’n golygu ei bod hi’n Llywodraeth sydd wedi troi ar ei hun, ac nad yw hi’n alluog i wneud y swydd y cafodd ei hethol i’w gwneud.”
Pasys Covid
Yn dilyn yr adolygiad wythnosol diweddaraf, bydd gweithio gartref yn dal yn rhan o gyngor Llywodraeth Cymru, ond fydd dim gorfodaeth gyfreithiol bellach.
Bydd y rheolau ar hunanynysu i bawb sydd yn profi’n bositif ar gyfer Covid a’r rheol ynghylch gorchudd wyneb sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o leoliadau dan do yn dal yn eu lle ar ôl Ionawr 28.
Ond bydd angen pasys Covid o hyd i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr i fwy na 4,000 o bobol heb seddi yn yr awyr agored, a mwy na 10,000 o bobol sy’n eistedd.
Bydd angen dangos pàs Covid i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, wrth siarad â Sky News, dywedodd Mark Drakeford nad yw’n dymuno gweld pasys Covid yn parhau i gael eu defnyddio am byth.
“Bydd pasys Covid yn aros am ychydig hirach na rhai o’r amddiffynfeydd eraill rydyn ni wedi’u rhoi yn eu lle i wneud yn siŵr bod Cymru’n cael llwybr clir allan o’r don Omicron a wnaeth ein taro ni’n wael dros y Nadolig ac yn ystod dechrau’r flwyddyn, ond sydd, yn unol â’r modelu, i weld yn cilio’n sydyn iawn hefyd,” meddai.
Pan ofynnwyd a yw hi’n bosib y bydd pasys Covid yn dod i ben ar Chwefror 10, dywedodd fod hynny’n “bosib” ond nad yw’n “sicrwydd” mewn unrhyw ffordd.
“Rydyn ni wedi gweld yn yr wythnos ddiwethaf pa mor sydyn mae pethau’n gallu newid gyda’r feirws hwn, ac mae Chwefror 10 dair wythnos i ffwrdd o hyd.
“Os yw pethau’n parhau i wella ar y gyfradd bresennol, a’n bod ni mewn sefyllfa i godi rhai o’r amddiffynfeydd ymhellach, yna dyna wnawn ni, wrth gwrs.
“Ond yng Nghymru, dydyn ni ond yn gwneud pethau pan rydyn ni’n sicr bod gennym ni gyngor clinigol neu wyddonol fyddai’n dweud wrthym ni ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny.”
Dywedodd hefyd fod Cymru “allan o’r gwaethaf”, ond “ddim allan o berygl” yn llwyr, o ran y pandemig.
“Yr wythnos hon, mae’r ystadegau wedi gwella bob diwrnod; mae gennym ni’r nifer isaf o bobol yn dioddef o coronafeirws o gymharu â phob rhan o’r Deyrnas Unedig, a’r niferoedd [isaf] mewn ysbytai, ac maen nhw wedi dechrau gostwng,” meddai.
“Ond mae’n rhaid i ni fonitro’r data bob dydd, a sicrhau ei bod hi’n ddiogel i ni gymryd y cam nesaf.”