Mae methiant i dalu pensiynau gwladol llawn i filoedd o bobl yn “shambls”, yn ôl y corff sy’n goruchwylio gwariant cyhoeddus.

Mae’r Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn amcangyfrif ei fod heb dalu’r pensiwn llawn i 134,000 o bensiynwyr, gyda rhai camgymeriadau yn dyddio nôl i 1985.

Mae nifer bellach wedi marw heb dderbyn yr hyn sy’n ddyledus iddyn nhw.

Ym mis Ionawr 2021 roedd yr Adran Waith a Phensiynau wedi dechrau ymdrech i unioni’r cam – y nawfed tro iddyn nhw geisio gwneud hynny ers 2018, yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC).

Mae’r camgymeriadau yn bennaf wedi effeithio gweddwon, menywod sydd wedi ysgaru a rhai sy’n dibynnu ar gyfraniadau pensiwn eu gŵyr ar gyfer rhan o’u pensiwn.

Rheolau pensiwn cymhleth a hen system TG sydd wedi arwain at filoedd o bensiynwyr yn cael cam.

Yn ôl y pwyllgor o Aelodau Seneddol roedd y system TG sy’n rheoli cofnodion miliynau o bensiynwyr yn dyddio nôl i 1988.

Dywedodd PAC y dylai’r Adran Waith a Phensiynau ystyried a oes ffordd gost-effeithiol o uwchraddio ei systemau TG “fel mater o frys”.

Nid oes bwriad ffurfiol ar hyn o bryd i gysylltu â theuluoedd pensiynwyr sydd heb dderbyn eu pensiwn llawn ac sydd bellach wedi marw, yn ôl PAC.

Fe fydd y gost o fynd i’r afael a’r camgymeriadau yn costio £24.3 miliwn i’r trethdalwr, meddai PAC.

Yn ôl cadeirydd PAC, y Fonesig Meg Hillier mae’r camgymeriadau yn “shambls cywilyddus”.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau: “Mae datrys y tandaliadau pensiwn gwladol hanesyddol a wnaed gan lywodraethau olynol yn flaenoriaeth i’r adran ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny cyn gynted â phosibl.”