Mae £1.3m wedi cael ei ddyrannu i ddarparwyr addysg uwch er mwyn cydweithio ag undebau myfyrwyr i gefnogi iechyd a llesiant myfyrwyr.

Er mwyn cefnogi gweithgareddau i wella llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol myfyrwyr, mae cyllid wedi cael ei roi i wyth prifysgol a thri choleg addysg bellach yng Nghymru.

Mae dros hanner y sefydliadau wedi derbyn dros £100,000 yr un, a bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn hyrwyddo addysg uwch ddiogel a chynhwysol, gan gynnwys mynd i’r afael â thrais ac aflonyddu rhywiol.

Bydd yr arian, sy’n rhan o becyn ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant, pobol ifanc, a theuluoedd wedi’r pandemig, yn mynd tuag at ddarparu cymorth llesiant yn Gymraeg hefyd.

Yn ogystal, bydd arian yn cael ei wario ar hyrwyddo addysg uwch ddiogel a chynhwysol, gan gynnwys mynd i’r afael â gwahaniaethu, aflonyddwch ac erledigaeth ar sail hunaniaeth, ac ar gefnogi’r rhai sy’n unig a meithrin ymdeimlad o gymuned.

Bydd hi’n bosib i ddarparwyr ac undebau myfyrwyr fuddsoddi i gefnogi urddas mislif hefyd.

“Profiad mwy cynhwysol”

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y bydd sicrhau cyfleoedd byw, addysg, a chymdeithasu diogel yn “creu profiad addysg uwch mwy cynhwysol, sy’n hanfodol i lesiant ac iechyd myfyrwyr”.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r pecyn hwn o gefnogaeth, sy’n cydnabod yr effaith benodol mae’r pandemig wedi’i gael ar gyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â’r gweithgareddau corfforol, cymdeithasol, a diwylliannol sydd mor bwysig i’w datblygiad, a phwysigrwydd byw a dysgu mewn amgylchedd cynhwysol a sefydlog.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd undebau myfyrwyr, gan weithio gyda darparwyr addysg uwch, yn gallu darparu cefnogaeth wedi’i dargedu i’r grŵp hwn, a chreu’r llwybr ar gyfer cefnogi myfyrwyr yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddarganfod mwy am y ffyrdd arloesol y mae darparwyr ac undebau myfyrwyr wedi dyrannu’r cyllid i fuddio’r holl fyfyrwyr, yn anad dim y myfyrwyr sydd wedi profi heriau personol sylweddol wrth fyw ac astudio yn ystod cyfnodau clo.”