Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cefnogaeth ariannol i ffatri cynhyrchu batris trydan ar gyfer ceir a fydd yn cyflogi 3,000 o bobl ac yn creu 5,000 o swyddi eraill.

Mae cynlluniau Britishvolt ar gyfer y ffatri yn Blyth, Northumberland, yn cael cefnogaeth gan y Llywodraeth fel rhan o’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau.

Nid yw’r Llywodraeth wedi dweud faint o arian sy’n cael ei roi mewn cefnogaeth ariannol i  Britishvolt ond credir ei fod tua £100 miliwn.

Dywedodd y cwmni y bydd angen £3.8 biliwn i sefydlu’r ffatri a dechrau cynhyrchu gyda chostau adeiladu yn £1.7 biliwn.

Fe ddylai’r ffatri fod a’r capasiti i gynhyrchu 300,000 o unedau batris bob blwyddyn, gan gyflenwi 25% o’r farchnad gyfredol yn y DU.

Fe gyhoeddodd y cwmni ym mis Rhagfyr 2020 eu bwriad i godi ffatri ar safle un o gyn-orsafoedd pŵer llosgi glo mwyaf gwledydd Prydain.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y byddai’r ffatri yn rhoi hwb i gynhyrchu cerbydau trydan yn y DU tra’n creu “cyfleoedd swyddi i filoedd o bobl mewn cymunedau diwydiannol.”