Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi mai dyn 52 oed o ardal Amlwch ar Ynys Môn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dwy lori a dau gar ar Bont Britannia fore ddoe (20 Ionawr).
Mae teulu’r dyn 52 oed o Amlwch wedi cael gwybod am ei farwolaeth, ac yn cael eu cynorthwyo gan Swyddog Cyswllt Teuluoedd arbenigol.
Mae dyn arall, a gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, yn parhau i fod yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Ymchwiliad
Cafodd gyrrwr un o’r lorïau HGV, dyn lleol 38 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r dyn 38 oed yn parhau i fod yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion ac yn ymchwilio i’r hyn achosodd y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Rhingyll Jason Diamond o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd ei fod yn diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd yn sgil yr oedi ar y ffyrdd.
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar hyn o bryd,” meddai Jason Diamond.
“Rydym yn parhau i apelio am dystion a oedd yn teithio ar hyd yr A55 cyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd cyn 3am ac sydd o bosib â thystiolaeth ar gamera cerbyd i gysylltu â’r heddlu.
“Mae ein hymchwiliad yn cael ei gynnal ac rwyf yn apelio ar i unrhyw un efallai welodd y gwrthdrawiad neu sydd â ffilm camera cerbyd ac sydd eto i gysylltu â ni, i wneud hynny cyn gynted â phosibl.”