Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu trawsnewid y diwydiant gwastraff yng Nghymru drwy ei gwneud yn haws delio â throseddau gwastraff.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cyd â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaeth olrhain gwastraff digidol.

Yn ôl Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, bydd y gwasanaeth olrhain yn fodd o wella’r defnydd o wastraff.

“Mae Cymru’n arweinydd byd-eang o ran ailgylchu, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft arall o sut rydym yn cymryd camau i symud i economi gylchol,” meddai.

“Bydd cyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol yn gwella tryloywder yn y sector gwastraff yn fawr, a bydd hefyd yn cefnogi ein camau gweithredu i gael y gwerth mwyaf posibl o’r deunyddiau a gasglwn.

“Bydd hyn yn helpu busnesau i gydymffurfio â’u dyletswydd gofal o ran gwastraff ac yn eu helpu i wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch sut y caiff eu gwastraff ei reoli.

“Bydd hefyd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau i nodi a datgloi gwerth posibl llawn deunyddiau gwastraff, drwy ddisodli deunyddiau crai â deunydd wedi’i ailgylchu a rhoi hyder mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer atebion arloesol newydd.

“Ein nod yw i’r gwasanaeth hefyd ddarparu gwybodaeth flynyddol am wastraff diwydiannol, masnachol, adeiladu a dymchwel a gynhyrchir yng Nghymru i gymryd lle’r arolygon cyfnodol presennol.”

Troseddau

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae nifer y troseddau gwastraff wedi cynyddu 29% rhwng 2018 a 2020.

Mae’r duedd yn dangos cynnydd parhaus, ac mae ffigurau hanner blwyddyn 2021 eisoes yn fwy na’r nifer a gafodd yn 2018.

Mae disgwyl i’r data hwn gael ei ddiweddaru ar gyfer 2021 yn fuan, ond ar hyn o bryd, dim ond y chwe mis cyntaf y mae’n ei gwmpasu.

Caiff ei gydnabod fod y bygythiad o droseddau gwastraff yn cynyddu ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu tîm ymroddedig o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â throseddau gwastraff.

Fel rhan o’u gwaith, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu Cynllun Gweithredu Troseddau Gwastraff, sy’n cynnwys camau i wella’r drefn bresennol o gofrestru cludwyr gwastraff.

Maen nhw’n cymryd mwy na 300 o gamau gorfodi bob blwyddyn yn erbyn gweithredwyr gwastraff yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau anghyfreithlon a rhai sy’n cael eu rheoleiddio fel torri rheolau ynghylch trwyddedau gwastraff.