Mae disgwyl i glybiau nos ailagor, ac i bellter cymdeithasol a’r rheol chwech gael eu dileu erbyn diwedd y mis yng Nghymru, yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford.
Dywed y bydd Cymru’n symud i lefel rybudd sero ar Ionawr 28, oni bai bod sefyllfa’r coronafeirws yn gwaethygu yn y cyfamser.
Y gobaith yw parhau i lacio’r cyfyngiadau lefel rybudd dau ac i symud i lefel rybudd sero yn y pen draw.
Mae’r data diweddara’n awgrymu bod Cymru wedi pasio brig y don Omicron a bod y feirws yn gostwng i lefel debyg i’r hyn oedd e yn yr hydref.
Mae gostyngiad hefyd yn nifer y cleifion sydd yn yr ysbyty â Covid-19.
Beth yw’r cyfyngiadau diweddaraf?
O heddiw (dydd Gwener, Ionawr 21), bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored, a fydd dim cyfyngiadau ar gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
Bydd y rheol chwech a gorfod cadw pellter yn cael eu dileu ar gyfer lletygarwch awyr agored.
Bydd yn rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gwblhau asesiadau risg coronafeirws penodol a chymryd camau rhesymol i leihau ymlediad y feirws.
Bydd gweithio gartref yn dal yn rhan o gyngor Llywodraeth Cymru, ond fydd dim gorfodaeth gyfreithiol o Ionawr 28.
Bydd y rheolau ar hunanynysu i bawb sydd yn profi’n bositif ar gyfer Covid a’r rheol ynghylch gorchudd wyneb sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o leoliadau dan do yn dal yn eu lle ar ôl Ionawr 28.
Ond bydd angen pasys Covid o hyd i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr i fwy na 4,000 o bobol heb seddi yn yr awyr agored, a mwy na 10,000 o bobol sy’n eistedd.
Bydd angen dangos pàs Covid i gael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd sydd ar agor ar hyn o bryd.
Heibio’r brig
“Mae’r ffigurau diweddara’n dangos ein bod ni wedi pasio brig Omicron ac y gallwn ni barhau i godi’r cyfyngiadau lefel rybudd dau fel rhan o’n cynllun gofalus a graddedig,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.
“Byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar nifer y bobol sy’n gallu ymgasglu ar gyfer digwyddiadau awyr agored.
“Rydym yn dal yn dawel hyderus bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn symud i’r cyfeiriad cywir, a’r wythnos nesaf y byddwn ni’n gallu cwblhau symud i lefel rybudd sero, oni bai bod y sefyllfa’n gwaethygu.
“Rydym yn y sefyllfa hon diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru a’n rhaglen frechu wych.
“Mae’n bwysig fod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a’r canllawiau i’w cadw nhw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel, gan gynnwys derbyn y cynnig i gael brechlyn atgyfnerthu os nad ydyn nhw wedi gwneud.”