Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn ymwneud â phedwar cerbyd ar Bont Britannia.

Cafodd y bont ei chau i’r ddau gyfeiriad yn sgil y digwyddiad, wedi i’r gwasanaethau brys gael eu galw i’r A55 ychydig cyn 3yb heddiw (dydd Iau, Ionawr 20).

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dwy lori HGV a dau gar ar gyrion y bont, a bu farw gyrrwr un o’r ceir yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr y car arall ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol.

Mae gyrrwr un o’r lorïau HGV wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ac mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Ffordd ar gau

Mae hi’n debyg y bydd y bont ar gau tan brynhawn heddiw, ac mae disgwyl oedi sylweddol yn y cyfamser.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, mae traffig yn cael ei effeithio’n “sylweddol” ym Mhorthaethwy, ac o amgylch yr ardal honno hefyd.

Dylai gyrwyr osgoi ardal Pont Britannia, meddai Heddlu’r Gogledd, ac mae’r gwrthdrawiad yn effeithio ar gyffordd 9, yr A487 am Dreborth, a chyffordd 8 yr A5025 am Lanfairpwll hefyd.

Ymchwiliad

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r dyn ar hyn o bryd,” meddai’r Rhingyll Jason Diamond o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu’r Gogledd mewn datganiad.

“Mae ymholiadau ar y gweill ac rydyn ni’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal, ac a allai fod â lluniau dash cam, i gysylltu â ni.

“Oherwydd bod y ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad ar Bont Britannia, fe fydd yna darfu sylweddol felly rydyn ni’n annog modurwyr i osgoi’r ardal os ydyn nhw’n gallu.”

Mae unrhyw un a allai gynorthwyo gydag ymchwiliad yr heddlu yn cael eu hannog i gysylltu â swyddogion yr Uned Plismona’r Ffyrdd drwy’r wefan neu drwy ffonio 101.