Bydd trin cleifion sy’n agored i niwed gartref yn “help aruthrol” wrth geisio lleihau’r pwysau ar y Gwasnaeth Iechyd yn ystod misoedd y gaeaf, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Dywed Eluned Morgan fod Cynllun Gaeaf y Llywodraeth yn ceisio osgoi ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys, ac y bydd hyn yn “help aruthrol” i leddfu’r pwysau ar Wasanaeth Iechyd Cymru yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae’r cynllun wedi’i anelu at unrhyw un sy’n byw gyda phroblem iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, pobol hŷn ag anghenion iechyd parhaus, unrhyw un y gall fod angen cymorth arnyn nhw gan staff iechyd a gofalwyr cofrestredig ac aelodau o’r teulu sy’n gofalu am bobol â chyflyrau iechyd hirdymor.
“Bydd ‘Fy Nghynllun Iechyd y Gaeaf’ yn help aruthrol i sicrhau bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymweld â chartrefi pobol y gaeaf hwn yr wybodaeth angenrheidiol wrth law ar gyfer darparu’r driniaeth a’r gefnogaeth iawn, sydd wedi’u teilwra’n bersonol ar gyfer anghenion yr unigolyn ei hun,” meddai Eluned Morgan.
“Bydd lleihau ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty yn lleddfu’r pwysau ar ein Gwasanaeth Iechyd.
“O ganlyniad, bydd staff ymroddedig y Gwasanaeth Iechyd yn gallu parhau i ddarparu gofal o safon i bobol pan fyddan nhw ei angen fwyaf.
“Rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i gefnogi ein Gwasanaeth Iechyd a hoffem annog pawb i’n ‘Helpu ni i’ch helpu chi’ y gaeaf hwn drwy ystyried sut a phryd y maen nhw’n cael gofal.”
Cymryd cyfrifoldeb
Yn ôl y Llywodraeth mae’r cynllun yn helpu i alluogi pobol i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a’u gofal eu hunain dros y gaeaf drwy rannu gwybodaeth allweddol mewn fformat sy’n hawdd ei ddefnyddio.
Gall hyn yn ei dro hefyd leihau derbyniadau i’r ysbyty a lleddfu’r pwysau ar gapasiti gwelyau yn ystod misoedd heriol y gaeaf.
Mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun, bydd 20,000 o gynlluniau ychwanegol yn cael eu dosbarthu y gaeaf hwn, a byddan nhw ar gael o fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru ac mae modd eu lawrlwytho o wefan GIG 111 Cymru.