CPD Nantlle Vale drwodd i wyth olaf cwpan y gynghrair

Mewn gêm gwpan hynod gystadleuol yn erbyn Dinbych, ennillodd Nantlle Vale ar giciau o’r smotyn, gan sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf cwpan y gynghrair.

Un o uchafbwyntiau eraill y gêm i gefnogwyr Y Fêl oedd gweld Dave Yates yn ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb, yn sgorio i’w gwneud hi’n gêm gyfartal.

Cyhoeddodd Begw Elain fideo o’r penalti fuddugol ar DyffrynNantlle360, a gallwch weld faint mae’n ei olygu i’r chwaraewyr os ewch chi i’w wylio!

Agor adeilad newydd Cylch Tregaron

Ar ôl misoedd o waith adeiladu, cynllunio, trefnu, codi arian, sortio ac yna symud, roedd adeilad y Cylch Meithrin yn barod i groesawu ieuenctid ardal Tregaron.

Mae’r hen bwll nofio wedi’i rannu’n ddwy ystafell fawr – un adeilad ar gyfer y Cylch Meithrin ac un adeilad ar gyfer Ysgol Henry Richard.

Ar Caron360 mae un o’r rhieni, Enfys Hatcher Davies, yn diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib i’r plant.

Cyhoeddi cystadlaethau Eisteddfod y Ddolen

Mae’r Ddolen yn annog pawb sy’n byw yn lleol i anfon eu campweithiau i mewn, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod y papur bro.

Ddydd Gwener 28 Ionawr yw’r dyddiad cau, ac mae amrywiaeth o gystadlaethau i siwtio bach o bawb – ffotograffiaeth, cyfansoddi cerddi a stori llên micro. Gallwch gael bach o hwyl hefyd yn creu pôs i’r papur neu’n cynnig capsiwn i lun diddorol o iâr ar ben bwrdd!

Ewch i BroAber360 i weld y rhestr lawn o gystadlaethau a’r manylion ymgeisio.

Eisteddfod y Ddolen 2022

Y Ddolen (papur bro)

Rhestr cystadleuthau Eisteddfod y Ddolen 2022