Mae ymgyrch i annog mwy o bobol i ddod yn athrawon, yn enwedig athrawon cyfrwng Cymraeg, wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o waith Addysgu Cymru, ymgyrch Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn addysgu, mae prosiect ‘Caru Dysgu’ yn adrodd straeon 21 o athrawon sydd wedi llwyddo i gyfuno eu gyrfaoedd â’u diddordebau neu brofiadau bywyd.

Mae’r athrawon hynny’n cynnwys athro bioleg a ddyfarnodd yng Nghwpan Rygbi’r Byd, athrawes Ffrangeg sy’n rhedeg traws gwlad dros Gymru, ac athrawes fathemateg sy’n rheoli fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wrth lansio’r ymgyrch, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru bod angen mwy o athrawon, yn enwedig yn y sector cyfrwng Cymraeg, yn dal i fod, er bod rhai wedi cael eu denu at ddysgu’n ystod y pandemig.

‘Ysbrydoledig’

“Mae addysgu’n yrfa wych, mae’n rhoi cyfle i rannu eich angerdd am bwnc a helpu plant a phobol ifanc i ddatblygu a ffynnu,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni eisiau i fwy o bobol ymuno â’r proffesiwn, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion Cymraeg, ac mae cymhellion ariannol ar gael i’r rheini sy’n awyddus i gymryd y cam i ddechrau addysgu.

“Mae straeon go iawn yr athrawon yn yr ymgyrch hon yn ysbrydoledig ac yn tynnu sylw at sut maen nhw, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn yr ystafell ddosbarth, hefyd yn chwarae rolau allweddol yn ein cymunedau.

“Erbyn hyn mae nifer o ffyrdd o hyfforddi i fod yn athro a all weddu i’ch ffordd o fyw – felly beth am edrych ar yr hyn a allai weithio i chi?”

‘Cadw’r cydbwysedd’

Mae Tim Hayes, sy’n athro Bioleg yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ac sydd wedi dyfarnu yng Nghwpan y Byd, yn credu bod ei ddiddordebau y tu allan i’r ysgol yn helpu ei berthynas â’r disgyblion.

“Yn gymharol gynnar, roeddwn yn gwybod y byddai addysgu i mi gan fy mod wastad wedi mwynhau gweithio gydag ieuenctid,” meddai Tim Hayes.

“Pan oeddwn yn y chweched dosbarth fy hun, byddwn yn gwirfoddoli yn helpu gyda’r plant iau er enghraifft.

“Roeddwn i hefyd yn mwynhau rygbi ond ar ôl anaf difrifol, gwnes i droi at ddyfarnu ac rydw i wedi bod yn ffodus i ddyfarnu ar y llwyfan mwyaf oll, Cwpan y Byd.”

Ond yr her fwyaf oedd pan gyrhaeddodd Ysgol Bro Myrddin ar fore Llun ar ôl dyfarnu gêm Scarlets v Gweilch oedd ar y teledu dros y penwythnos.

“Doedd nunlle i guddio – roedd gen i 900 o feirniaid yn yr ysgol a byddai’r disgyblion bob amser yn cwestiynu fy mhenderfyniadau. Mae’n sicr yn cadw’ch traed ar y ddaear!

“Mae’n bosib bod yn athro a chael diddordebau; cadw’r cydbwysedd a sicrhau nad yw’n cymryd drosodd gormod yw’r gamp. Rhowch gynnig arni i weld a yw’n gweithio, oherwydd dydych chi byth yn gwybod ble y gall arwain.

“Yn y pen draw, bydd y sgiliau a’r profiad rydych chi’n eu hennill yn gwella dau faes eich bywyd.”

‘Cyfoethogi bywyd’

Dros 30 mlynedd yn ôl, pan symudodd teulu Hannah Parr, a oedd yn bump oed ar y pryd, o Birmingham i Langeitho, gofynnodd i’w thad brynu dolffin neu ferlen iddi.

Prynodd ferlen iddi, ac erbyn heddiw mae Hannah Parr yn bridio, hyfforddi a marchogaeth ceffylau, yn ogystal â dysgu Cymraeg mewn ysgol uwchradd.

“Mae ymddiriedaeth yn rhan mor enfawr o fy nau ddiddordeb; addysgu a cheffylau,” meddai.

“Os nad yw disgyblion yn ymddiried ynoch chi, fyddan nhw ddim yn gwrando yn y wers, ac os nad yw ceffyl yn ymddiried ynoch chi, byddwch chi ar y llawr yn y pen draw!

“Mae’n rhaid bod yn amyneddgar gyda disgyblion, nid yw pawb yn mynd i gyrraedd yr un pwynt ar yr un pryd.

“Mae gweithio gyda phlant yn swydd sydd wir yn cyfoethogi bywyd. Mae mor hyfryd gweld fy nisgyblion yn datblygu ac yn mwynhau dysgu Cymraeg.

“Yn sicr, gwnaeth dysgu’r iaith newid y ffordd roeddwn i’n byw fy mywyd a’r ffordd rydw i wedi ei fyw ers hynny.

“Mae llawer o bobol yn ei chael hi’n anodd credu fy mod i’n athrawes lawn amser ochr yn ochr â’r gwaith rydw i’n ei wneud gyda cheffylau.

“Ond rydw i’n rhoi amser ac ymdrech gyfartal i’r ddau beth – ac rydw i wrth fy modd â phob munud.”