Mae angen datrysiadau tymor hir i fynd i’r afael â phroblemau hirhoedlog yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl Plaid Cymru.
Cyn i amseroedd aros diweddaraf Gwasanaeth Iechyd Cymru gael eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 20), dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod angen “gweithredu brys” i wella’r sefyllfa.
Yn ôl yr ystadegau hynny, roedd un ym mhob pum person yng Nghymru ar restrau aros am driniaethau – cyfanswm o 679,626 o bobol.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd “yn gaeth mewn cylch dieflig”, meddai Rhun ap Iorwerth, a hynny gan fod mwy o bobol yn cael eu hychwanegu at restrau aros bob dydd a bod oedi mewn trosglwyddo gofal.
‘Pwysau eithriadol’
“Ni allwn ni gyflymu llif cleifion drwy’r system nes ein bod ni’n mynd i’r afael â hynny, ac yn y cyfamser, mae ein staff iechyd a gofal gweithiol yn gweithio ddydd a nos i symud pethau,” meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd tros Ynys Môn.
“Efallai mai’r arwydd amlycaf o’r ôl-groniad hwn yn y system yw’r oedi o ran y gwasanaeth ambiwlansys, wrth iddyn nhw aros i ddadlwytho cleifion sy’n ddifrifol wael i ofal ysbyty, ond mae pob elfen o’r gwasanaeth yn teimlo pwysau eithriadol.”
O ran amseroedd ambiwlansys, mae’r data’n dangos mai dim ond 53% o’r ambiwlansys gafodd eu galw i alwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl gyrhaeddodd o fewn wyth munud.
“Tra bod Covid wedi gwaethygu’r problemau, roedd y problemau hyn yn bodoli ymhell cyn y pandemig,” meddai Rhun ap Iorwerth wedyn.
“O ganlyniad, dydy hyn ddim yn ymwneud â disgwyl i Covid fynd yn unig – mae’n gofyn am ddatrysiadau hirdymor i ddod dros broblemau hirhoedlog.”