Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu pasys Covid yng Nghymru.

Daw hyn wedi i Boris Johnson gyhoeddi y bydd y pasys yn dod i ben yn Lloegr o Ionawr 27, fel rhan o ‘Gynllun B’.

Ers eu cyflwyno fis Tachwedd y llynedd, mae’r ddwy blaid wedi gofyn i’r llywodraeth ddweud pryd fyddan nhw’n yn dod i ben.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod sylwadau Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, yn rhai “cwbl ddi-gysylltiad” ac wedi ailadrodd eu galwadau am ollwng pasbortau brechu yng Nghymru.

Daeth sylwadau Vaughan Gething wrth i Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig, ei gwestiynu ynghylch y “sioe arswyd lletygarwch” yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19).

Galwodd Paul Davies ar weinidogion Llafur i ddatgelu pa gamau sy’n cael eu cymryd i barhau gyda phasys Covid erbyn hyn.

“Yn amlwg mae Gweinidog Economi Llafur a’i ben yn y cymylau ac rwy’n siŵr na fydd perchnogion busnes ar hyd a lled y wlad yn rhannu ei farn nad yw pasbortau brechu wedi cael effaith ar fasnach,” meddai.

“Mae’r rhan fwyaf o’r cyfyngiadau a osodwyd yng Nghymru ers dechrau’r pandemig – gan gynnwys y rhai gorfoleddus sydd ar waith ers Gŵyl San Steffan – wedi profi’n ddinistriol i’n diwydiant lletygarwch ac wedi gadael swyddi Cymru yn y fantol.

“Dylid dileu pasbortau brechlyn yng Nghymru – fel sy’n digwydd yn Lloegr erbyn hyn – pan fyddwn yn dychwelyd i Lefel Rybudd 0 yr wythnos nesaf, yn enwedig gan nad oes tystiolaeth i awgrymu eu bod wedi llwyddo i atal lledaeniad coronafeirws neu gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y pigiad.

“Mae pob pasbort brechu yn lledaenu ofn a phryder ymhlith perchnogion busnes sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac mae’n hen bryd i ni eu gadael wrth i ni geisio taro’n ôl o’r pandemig.”

Fodd bynnag, mae Vaughan Gething yn honni nad yw’r ffaith fod ei blaid wedi cau clybiau nos ychydig ar ôl y Nadolig “yn golygu bod pasys Covid wedi methu”, gan fynnu ei bod yn “gwbl anghywir” i ddweud hynny.

‘Ddim yn effeithiol’

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nad oes unrhyw dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd erioed wedi’i darparu i ddangos bod y cynllun yn gweithio, ac nad ydyn nhw yn darparu budd i iechyd y cyhoedd.

Gyda’r gwymp yn nifer yr achosion o Omicron dros y bythefnos ddiwethaf, mae’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dileu cynllun pasbort Covid ar frys.

“Drwy gydol cyfnod gweithredu’r cynllun, ni chawsom unrhyw dystiolaeth bod y tocynnau’n effeithiol o ran lleihau trosglwyddiadau a gorfodwyd y mwyafrif helaeth o fusnesau y mae’n ofynnol iddynt weithredu’r cynllun i gau,” meddai.

“Mae angen cymorth ar frys ar fusnesau, a llai o fiwrocratiaeth wrth iddyn nhw geisio gwella, ni ddylem fod yn parhau â chynllun aflwyddiannus nad yw wedi profi budd iechyd y cyhoedd, ond sy’n cael effaith negyddol ar fusnesau Cymru.

“Os yw hawliau sifil i gael eu torri, mae’n hanfodol bod symudiadau o’r fath yn gymesur ac yn seiliedig ar dystiolaeth.”

“Drwy gydol y cyfnod o’u defnyddio, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i ddangos bod pasbortau brechlyn yn gweithio,” meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar Twitter, gan annog pobol i lofnodi deiseb.

Roedd protestiadau cyn eu cyflwyno ar risiau’r Senedd y llynedd, gyda’r Llywydd yn cau Tŷ Hywel er lles diogelwch Aelodau.

Protest yn erbyn y pasys covid ar risiau’r Senedd

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, yn dweud y byddai’n cefnogi llacio cyfyngiadau drwy’r Cynllun B yn Lloegr “cyn belled â bod gwyddoniaeth yn dweud ei fod yn ddiogel” ac yn gofyn i Boris Johnson ryddhau’r dystiolaeth wyddonol sydd y tu ôl i’w benderfyniad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i lacio cyfyngiadau yn “raddol ac yn ofalus”.

Bydd pasys yn ofynnol ar gyfer clybiau nos pan fyddan nhw’n ailagor ddiwedd y mis.

 

Disgwyl i gyfyngiadau gael eu codi’n “raddol ac yn ofalus” erbyn diwedd y mis

“Mae’n ymddangos ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt Omicron, ac yn dod i lawr yn gyflym iawn,” meddai Mark Drakeford