Mae ymgynghoriad ar gynlluniau dadleuol i adeiladu ysgol Gymraeg newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael sêl bendith Cabinet y Cyngor.

Fe gytunon nhw i fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad, a fydd yn edrych ar gynlluniau i ddarparu adeilad newydd o’r radd flaenaf i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn y dref.

Mae darn o dir ger ystâd ddiwydiannol Bracla wedi dod i ddwylo’r Cyngor, gan alluogi ymgynghoriad cyhoeddus i’r cynlluniau gwerth £12.6m i barhau.

Cynlluniau gwreiddiol

Daw’r cyhoeddiad bron i flwyddyn ar ôl i’r Cyngor ddiystyru safle 14 erw, sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Bryn Bracla, ar gyfer adeiladu’r ysgol ar ôl i astudiaeth ddatgelu bod y tir yn anaddas.

Roedd gwrthwynebiad ffyrnig i’r cynlluniau cychwynnol hynny, gyda thrigolion yn ofni colli mannau gwyrdd sy’n cael eu defnyddio gan gerddwyr ac ar gyfer ymarfer corff.

Bryn Bracla

Sefydlodd grŵp ymgyrchu o’r enw ‘Save Our Fields’ ddeiseb ym mis Gorffennaf 2020, ac fe gafodd hwnnw dros 8,000 o lofnodion yn gwrthwynebu’r datblygiad.

“Er ein bod yn gwerthfawrogi na fydd byth lleoliad sydd yn berffaith i bawb, dydy ein hymgyrch ni erioed wedi dymuno peidio gweld ysgol yn cael ei hadeiladu, dim ond y lleoliad arfaethedig,” meddai un o drigolion Bracla, Alan Drury ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Doedd Bryn Bracla byth yn lleoliad addas ar gyfer y datblygiad hwn, a ddylen nhw ddim bod wedi ystyried un o’r mannau gwyrdd agored olaf sydd ar ôl yma ym Mracla.”

Ychwanegodd arweinydd yr ymgyrch ei fod yn gobeithio bod y Cyngor wedi dysgu “gwers werthfawr” ac y byddan nhw’n “ystyried yn ofalus yr effaith ar y gymuned wrth wneud unrhyw benderfyniadau cynllunio yn y dyfodol”.

Safle newydd

Lleoliad y cynlluniau presennol ar Ffordd Cadfan

Yn dilyn y penderfyniad i beidio adeiladu ar Fryn Bracla, bydd safle gwag ar Ffordd Cadfan yn cael ei ddefnyddio i ddarparu safle mwy o faint a mwy modern ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

Bydd yn cynnwys meithrinfa newydd â 90 lle, a chyfleuster arsylwi ac asesu cyfrwng Cymraeg newydd.

Dywed Kay Rowlands, y cynghorydd Ceidwadol dros ward Bracla, ei bod hi’n “croesawu’r penderfyniad” i adeiladu’r ysgol yn y lleoliad newydd.

“Rwy’n falch bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwrando ar drigolion ac wedi newid lleoliad arfaethedig yr ysgol, gyda chynnig yn wreiddiol i’w hadeiladu ar fan gwyrdd agored ym Mracla,” meddai.

“Bydd yr ysgol nawr yn cael ei hadeiladu yn y lleoliad delfrydol rhwng Bracla a Choety.”

‘Ymrwymedig i ddarparu’r cyfleusterau addysg gorau posib’

“Flwyddyn yn ôl, pan wnaethon ni ddiystyru cynlluniau ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd ar dir ym Mryn Bracla, fe wnaethon ni ddatgan ein bod ni’n parhau i fod yn gwbl ymroddedig i ddarparu cymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg cwbl newydd,” meddai’r Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.

“Yn ogystal â darparu safle newydd modern i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn agos at safle’r ysgol bresennol, fe ddywedon ni hefyd y byddem ni’n archwilio sut y gellid defnyddio safle presennol Bro Ogwr i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg cwbl newydd hefyd.

“Mae’r penderfyniad heddiw yn dangos ein bod ni’n cyflawni’r addewid hwnnw fel rhan o’n rhaglen moderneiddio ysgolion, a’n bod yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu’r cyfleusterau addysg gorau posibl i blant lleol.”