Mae gweithwyr graeanu ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi stopio streicio yn dilyn cynnig newydd gan y Cyngor Sir.
Bydd undeb GMB, un o’r undebau sy’n cynrychioli’r graeanwyr, yn trafod y cynnig newydd gyda’u haelodau dros yr wythnosau nesaf.
Mae undebau GMB, Uno’r Undeb ac Unsain wedi bod yn dadlau â Chyngor Sir Gaerfyrddin ynghylch cytundeb a gafodd ei lofnodi rhyngddyn nhw yn 2020 a oedd yn rhestru nifer o addewidion i’r gweithwyr.
Fe wnaeth y Cyngor dorri rhai o’r addewidion, meddai’r undebau, ac arweiniodd hyn at weithredu diwydiannol.
Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau “llwyddiannus” â’r Cyngor Sir, mae’r awdurdod a’r undebau llafur wedi cytuno ar gynnig newydd.
Dywed Peter Hill, trefnydd rhanbarthol undeb GMB, eu bod nhw’n “falch bod y cyngor wedi gweld synnwyr a dod yn ôl i drafod”.
“Byddwn ni angen amser i’n haelodau bleidleisio ar y cynnig newydd, felly rydyn ni wedi gohirio unrhyw weithredu pellach er mwyn caniatáu i ni drafod y cynnig mewn manylder,” meddai.
Cefndir
Roedd Cyngor Sir Gâr yn honni bod y cytundeb, a gafodd ei lofnodi ddwy flynedd yn ôl, yn “cydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae gweithwyr y Cyngor yn ei wneud” ac yn “rhoi pecyn tâl iddynt sydd gyda’r uchaf yng Nghymru”.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad ein gweithwyr wrth helpu i sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn cael ei drin yn ystod misoedd y gaeaf, er mwyn darparu rhwydwaith ffyrdd diogel i’r cyhoedd, busnesau, a’r gwasanaethau brys,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.
“Daeth y Cyngor i gytundeb ffurfiol gyda’r undebau llafur yn 2020 ynghylch dyletswyddau cynnal a chadw’r priffyrdd dros y gaeaf.
“Roedd y cytundeb yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ein gweithwyr ac yn rhoi pecyn tâl iddynt sydd gyda’r uchaf yng Nghymru.
“Mae’r Cyngor wedi cadw at delerau ac amodau’r cytundeb a drefnwyd, ac mae bob amser wedi mynd ati i helpu ein gweithwyr i ddarparu rhwydwaith ffyrdd diogel i’n cymunedau, busnesau, a gwasanaethau brys, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.”
Roedd y Cyngor wedi cyflwyno cynnig diwygiedig i geisio osgoi streic, ond fe wnaeth yr undebau wrthod trafod y cynnig gwreiddiol hwnnw.