Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn credu y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod ar gael am ddim i bobol ifanc o dan 25 oed.
Dywed y blaid y byddai hynny yn hybu symudedd cymdeithasol ac yn lleihau allyriadau carbon, wrth i Gymru geisio dod yn wlad sero-net erbyn 2050.
Mae eu harweinydd Jane Dodds yn dadlau yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19) fod angen i Gymru gyflwyno syniadau radical os ydyn nhw am ddarbwyllo’r cyhoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ac i leihau tlodi ar yr un pryd.
Rhwng 2009 a 2019, roedd 22% yn llai o deithwyr yn defnyddio bysus yng Nghymru, tra bod rhwng 75 i 80% o boblogaeth y wlad yn teithio i’r gwaith mewn car mae’n debyg.
‘Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu’
Cyn ei dadl yn y Senedd, roedd Jane Dodds yn honni bod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhy ddrud ar hyn o bryd, ac y byddai cyflwyno teithiau am ddim i bobol ifanc yn rhoi help ariannol i’r rheiny sy’n ddibynnol arno.
Ar hyn o bryd, mae modd i unigolion dros 60 deithio ar fysiau am ddim ac yn gallu cael gostyngiad ym mhrisiau trenau.
Hefyd, mae plant o dan 16 oed yn gallu teithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am ddim mewn rhai amgylchiadau.
“Mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i rai dan 25 oed yn rhoi ffordd radical i ni gael rhannau helaeth o’r boblogaeth allan o geir preifat ac i ddefnyddio dulliau cynaliadwy o deithio,” meddai Jane Dodds.
“Trafnidiaeth yw un o lygrwyr mwyaf Cymru. Mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gael pobol ar drafnidiaeth gyhoeddus a lleihau traffig a thagfeydd.
“Ar yr un pryd, byddem yn gweld gostyngiad yn y llygredd aer marwol sy’n effeithio ar ein hiechyd.
“Yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gall y polisi hwn helpu i dorri cyfraddau tlodi uchel Cymru a rhoi’r hwb sydd ei angen ar bobol ifanc wrth inni ddod allan o’r pandemig.”
‘Chwalu’r rhwystrau’
Mae Jane Dodds hefyd yn teimlo bod costau uchel yn rhwystr i bobol ifanc mewn sawl ffordd, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
“Rydyn ni am sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol, cael y swydd y maen nhw ei heisiau, neu fynd ar drywydd y cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu ac mae trafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch yn rhan allweddol o chwalu’r rhwystrau hyn,” meddai.
“Mae hyn yn arbennig o wir am bobol ifanc yng Nghymru sy’n cael eu gorfodi’n rhy aml i weithio am gyflogau is.
“Bydd y polisi hwn yn cwtogi’n sylweddol ar filiau cartrefi pobol ifanc sy’n dibynnu ar docynnau trafnidiaeth gyhoeddus drud ar hyn o bryd ac ar gyfer y rhai sy’n cyfnewid o deithio mewn car i drafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr argyfwng costau byw presennol mae dirfawr angen hyn.
“Bydd hefyd yn helpu pobol ifanc mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, sydd yn aml yn teimlo’n gaeth os na allan nhw fforddio dysgu gyrru neu redeg car.”