Fe wnaeth Boris Johnson wynebu galwadau i ymddiswyddo gan ei feinciau ei hun a’r wrthblaid yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heriol heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19).

Mae’r Ceidwadwr blaenllaw David Davis wedi galw ar lawr y siambr am ei ymddiswyddiad.

Daw hyn wrth i’r aelod seneddol Ceidwadol, Christian Wakefield, groesi’r llawr at y Blaid Lafur.

Gwnaeth Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, bwyso ar Boris Johnson ynghylch a gafodd ei rybuddio y byddai parti diodydd fis Mai 2020 yn debygol o dorri rheolau Covid-19.

Ond mynnodd Boris Johnson y dylai aelodau aros am gasgliadau’r uwch-was sifil Sue Gray, sy’n cynnal ymchwiliad i’r partïon anghyfreithlon yn Downing Street yn ystod y cyfnodau clo.

‘Yn enw Duw, ewch’

Uchafbwynt y sesiwn oedd galwadau Ceidwadwr blaenllaw, y cyn-Weinidog Brexit David Davis, ar i Boris Johnson gamu o’r neilltu drwy ddweud ei fod wedi “treulio wythnosau” yn amddiffyn y Prif Weinidog.

“Ond rwy’n disgwyl i’m harweinwyr gymryd cyfrifoldeb,” meddai.

“Rydych chi wedi eistedd yno’n rhy hir am yr holl les rydych chi wedi’i wneud. Yn enw Duw, ewch.”

Dywed Boris Johnson ei fod yn “cymryd cyfrifoldeb” am weithredoedd y llywodraeth yn ystod y pandemig.

Ond fe gadarnhaodd nad yw wedi rhoi llythyr o ddiffyg hyder i gadeirydd pwyllgor meinciau cefn 1922, Syr Graham Brady, sy’n trefnu etholiadau am arweinyddiaeth y Torïaid.

Fe gyhuddodd Keir Starmer y Prif Weinidog  o wneud “amddiffyniadau hurt ac annibynadwy” dros y partïon yn Rhif 10 sy’n parhau i “ddod i’r amlwg”.

“Nawr, rwyf wedi clywed ymateb y Prif Weinidog yn ofalus iawn i’r cyhuddiad hwnnw. Mae bron yn swnio fel cyfreithiwr a’i ysgrifennodd,” meddai arweinydd Llafur.

“Felly, byddaf yr un mor ofalus gyda fy nghwestiwn. Pryd y daeth y Prif Weinidog yn ymwybodol am y tro cyntaf fod gan unrhyw un o’i staff bryderon am y blaid ym mis Mai?”

Atebodd Boris Johnson drwy ddweud mai “mater i’r ymchwiliad yw cyflwyno esboniad o’r hyn ddigwyddodd”, gan ychwanegu y byddai’n rhaid “aros”.

Christian Wakeford yn croesi’r llawr

Daw hyn wrth i Christian Wakeford groesi o feinciau’r Ceidwadwyr, gan dderbyn croeso gan rai aelodau Llafur yng Nghymru.

Yn ei lythyr yn ymddiswyddo, dywedodd na allai “gefnogi llywodraeth sydd wedi dangos ei hun yn gyson o fod allan o gysylltiad â phobol sy’n gweithio’n galed yn Ne Bury a’r wlad gyfan”.

Fe estynnodd Keir Starmer “groeso cynnes” i’r aelod Llafur newydd.

 

“Y llynedd eisteddodd Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ei phen ei hun pan oedd hi’n nodi pasio’r dyn yr oedd wedi bod yn briod ag ef am 73 mlynedd, roedd hi’n dilyn rheolau’r wlad y mae hi’n ei harwain,” meddai Syr Keir Starmer wedyn.

“Ar drothwy’r angladd, roedd swît yn llawn diodydd meddwol, ac ar olwynion i Stryd Downing, roedd DJ yn chwarae ac yn staffio’n hwyr i’r nos.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei orfodi i roi ymddiheuriad i’w Mawrhydi’r Frenhines. Onid yw’n gywilyddus nad oedd yn rhoi ei ymddiswyddiad ar yr un pryd?”

Ond fe wnaeth y Llefarydd, Syr Lindsay Hoyle, ymyrryd gan ddweud, “Fel arfer, ni fyddem, yn gwbl briodol, yn sôn am y teulu brenhinol. Dydyn ni ddim yn cael trafodaethau ar y teulu brenhinol.”

“Wel, os felly, Mr Llefarydd, mae’n rhaid i mi ofyn i [Syr Keir] i’w dynnu’n ôl,” atebodd y prif weinidog.

SNP

Gwnaeth Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, gwestiynu’r Prif Weinidog dros ei ymddygiad gan gyfeirio at gynllun a gafodd ei adrodd i achub swydd y Prif Weinidog.

“Roedd yr wythnos hon i fod yn Operation Big Dog, ond mae wedi dod yn ginio Operation Dog,” meddai.

“Rydym wedi cael datgeliadau mwy niweidiol fod y Senedd wedi cael ei chamarwain”, meddai, gan alw esgusodion y Boris Johnson yn “chwerthinllyd”.

Roedd amddiffyniad y prif weinidog – na chafodd ei rybuddio am barti oedd yn torri rheolau yn Downing Street ym mis Mai 2020 – yn “hollol druenus”, meddai.

Ond mynnodd y Prif Weinidog fod pobl yn y Deyrnas Unedig yn ymddiried yn ei lywodraeth, gan gyfeirio at y rhaglen frechu fel enghraifft o’r ymddiriedaeth hynny gan dalu teyrnged i’r Gwasanaeth Iechyd ar yr un pryd.

Plaid Cymru

Gofynnodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, p’un a oedd y Prif Weinidog am ddiwygio ei sylwadau, wedi iddo gytuno â Hywel Williams fis Ebrill y llynedd “na ddylai gwleidyddion ddweud celwydd”.

“Fis Ebrill diwethaf, gofynnais i’r Prif Weinidog a oedd yn cytuno â’r egwyddor na ddylai gwleidyddion ddweud celwydd,” meddai.

Wrth siarad wedi’r sesiwn fe ddywedodd ei bod yn “glir bod Boris Johnson yn dweud celwydd”.

“Cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yr wythnos ddiwethaf sy’n galw am gyflwyno deddf newydd i ddwyn gwleidyddion twyllodrus, fel Boris Johnson, i gyfrif am gamarwain y cyhoedd,” meddai.

“Mae wedi cael cefnogaeth gan bob plaid, ac eithrio, wrth gwrs, y Blaid Geidwadol.

“Dyw Boris Johnson ddim yn ffit i lywodraethu. Mae’n rhaid iddo fynd.”

Mae’n debyg fod tua hanner yr aelodau o blith y rheiny a gafodd eu hethol yn 2019 wedi rhoi eu llythyron i Gadeirydd y Pwyllgor 1922, Graham Brady.

Llwytho’r gwn cyn saethu: Dadansoddiad Jacob Morris

Wedi wythnos o geisio cuddio yn y ffosydd a chadw proffil isel, mae ymdrechion Boris Johnson yn ofer, a pharhau mae’r bwledi i glecian uwch ei ben.

Ac ymddengys fod y Prif Weinidog yn brin o’i arfogaeth draddodiadol. Hynny yw, ei allu i swyno’r cyhoedd a’i blaid a chwato o olwg y camerâu pan fydd pethau’n mynd o’i le. Ond heddiw bu’n rhaid iddo gamu i faes y gad. Ac wedi bore cythryblus mae Boris wedi’i glwyfo’n ddwfn wedi dau ergyd sylweddol i’w arweinyddiaeth.

Cwta hanner awr cyn i’r Prif Weinidog godi yn Nhŷ’r Cyffredin fe ddaeth yr ergyd gyntaf gan Christian Wakefield wrth iddo groesi’r llawr i ymuno â Llafur. Clec gynllwyngar a niweidiol, a dweud y lleiaf. Ond cnoc gan y Ceidwadwr blaenllaw David Davis a darodd y Prif Weinidog yn annisgwyl gerbron y siambr; “Yn enw Duw, ewch!” yn bloeddio dros ei ysgwydd… wff!!

A pharhau bydd y bygythiad i Boris Johnson gan ei rengoedd ei hun. Y grŵp amlycaf sy’n troi yn ei erbyn yw’r 20 aelod a gafodd eu hethol yn 2019 trwy gynllwyn sy’n cael ei alw’n ‘Pork Pie Plot’. Rhai wythnosau nôl, bu Boris yn sôn am Peppa Pig, ond Porc Pei fydd yn pennu ei dynged… Heb os, maen nhw’n ddyledus i Boris Johnson ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac mae lle i holi “pam cnoi’r llaw sy’n eich cynnal?” Ond gyda nifer wedi eu hethol i seddi yn ardaloedd traddodiadol Llafur, mae gwrando ar gri eu hetholwyr yn hollbwysig os ydynt am oroesi pan fyddwn yn dychwelyd i’r blychau pleidleisio o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Bydd yr oriau, ac yn wir y dyddiau nesaf yn rhai ble fydd Boris Johnson yn wyliadwrus pa frawd fydd yn troi’n fradychwr nesaf. Yn dilyn ei berfformiad heddiw, mae Syr Graham Brady, Cadeirydd y Pwyllgor 1922, yn siŵr o dderbyn rhagor o lythyron. Ac efallai ein bod ni wir o fewn ychydig ddyddiau i weld Boris yn codi ei faner wen, gyda nifer yn mynnu aros am gasgliadau ymchwiliad Sue Gray ac yn llwytho’r gwn cyn saethu.

Ond am tro rhaid aros i weld pwy fydd yn tanio’r ergyd farwol.

 

“Croeso!”: Aelod Seneddol Ceidwadol yn symud at y Blaid Lafur

Mae dau aelod seneddol o Gymru wedi ei groesawu i’r Blaid Lafur

Disgwyl i Boris Johnson wynebu Aelodau Seneddol yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog

Fe allai’r Prif Weinidog wynebu bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder