Mae dau Gymro fu’n cydweithio i ddod â chyffuriau i Gymru ar restr yr Asiantaeth Dorcyfraith Genedlaethol o 12 o droseddwyr sy’n cuddio ar dir mawr neu ynysoedd Sbaen.

Mae’r awdurdodau’n gobeithio y bydd cyhoeddi’r rhestr yn gymorth i ddod o hyd i Asim Naveed, 29, a Calvin Parris, 32.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym Madrid heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19).

Defnyddiodd Naveed a Parris y rhwydwaith ffonau cyfrinachol EncroChat i drefnu eu gwaith cyn i’r rhwydwaith gael ei ddileu fel rhan o ymchwiliad rhyngwladol.

Mae Naveed wedi’i amau o arwain cylch smyglo cyffuriau oedd wedi dod â 46kg a gwerth £8m o gocên i Gymru rhwng Chwefror a Mehefin 2020.

Mae lle i gredu ei fod e’n byw yn Nhre-biwt a Phentwyn yng Nghaerdydd ar un adeg, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn Asiaidd sydd â chraith ar ei arddwrn chwith.

Roedd gan ei gwsmer, Calvin Parris, ddannedd aur ac mae e wedi’i amau o werthu cocên yn y brifddinas.

Roedd e’n byw yn Nhrelai, Syli a’r Barri ac mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn du.

Sbaen “ddim yn hafan ddiogel” i droseddwyr

Wrth lansio’r ymgyrch, mae’r Asiantaeth Dorcyfraith Genedlaethol yn mynnu nad yw Sbaen yn “hafan ddiogel” i droseddwyr.

Yn y lansiad roedd Steve Rodhouse, cyfarwyddwr cyffredinol gweithrediadau’r Asiantaeth Dorcyfraith Genedlaethol; Rafael Perez Ruiz, Gweinidog Diogelwch Sbaen; Hugh Elliot, Llysgennad Prydain yn Sbaen; a Mark Hallas, prif weithredwr Crimestoppers.

Yn ôl Steve Rodhouse, dydy Sbaen “ddim yn hafan ddiogel” i droseddwyr, ac mae’n dweud bod “pobol sy’n ffoi fel arfer yn parhau i droseddu wrth iddyn nhw redeg”.

Mae’n dweud y byddai’r dynion hyn “i gyd yn hysbys lle bynnag y maen nhw”.

“Gwyddom y gall fod yn anodd i bobol siarad am droseddau, a dyna pam fod ein helusen yma i roi opsiwn i chi,” meddai’r Arglwydd Ashcroft, sylfaenydd elusen Crimestoppers.

“Rydym yn gwarantu y byddwch chi’n aros yn gwbl ddienw, yn union fel y miliynau o bobol sydd wedi ymddiried yn ein helusen gyda’u gwybodaeth am dorcyfraith ers i ni gael ein sefydlu’n ôl yn y 1980au.

“Gwnewch y peth iawn, os gwelwch yn dda, drwy drosglwyddo’r hyn rydych chi’n ei wybod am le mae’r rhain sydd wedi ffoi, a helpwch ni i sicrhau nad yw’r troseddwyr hyn bellach yn beryglus.”