Mae un o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr wedi gadael y blaid er mwyn ymuno â’r Blaid Lafur, ac wedi cael croeso Cymreig gan un o aelodau seneddol Llafur yng Nghymru.

Daeth cyhoeddiad Christian Wakeford ychydig cyn i gwestiynau’r Prif Weinidog ddechrau brynhawn heddiw (dydd Mercher, Ionawr 19) yn dilyn pwysau ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

Dywed Wakeford, sy’n cynrychioli De Bury, fod angen llywodraeth sy’n “dal y safonau uchaf o onestrwydd”, ac fe ddywedodd wrthod Boris Johnson ei fod e “a’r Blaid Geidwadol yn gyffredinol, wedi dangos eich bod yn analluog i gynnig yr arweinyddiaeth a’r llywodraeth mae’r wlad hon yn ei haeddu”.

Roedd etholaeth De Bury yn rhan o’r Wal Goch a gollodd dir i’r Ceidwadwyr yn ystod etholiad 2019.

Roedd etholaeth De Bury ym Manceinion Fwyaf wedi ethol Aelod Seneddol Llafur ymhob etholiad rhwng 1997 a 2019.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau y gallai 54 o lythyron gael eu derbyn a fyddai’n dechrau’r broses o bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Yn ôl adroddiadau neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 18), roedd aelodau seneddol yn gandryll gyda’r modd yr oedd y Prif Weinidog wedi delio â’r sgandal am bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo, ac ar ôl iddo fynnu nad oedd unrhyw un wedi dweud wrtho y byddai cynnal parti yn Downing Street yn mynd yn groes i’r rheolau yr oedd e ei hun wedi’u gosod.

‘Analluog i gynnig arweinyddiaeth’

Daeth y cyhoeddiad gan Christian Wakeford funudau cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog, gyda’r bwriad o achosi’r difrod mwyaf posib i Boris Johnson.

Cyhoeddodd ei benderfyniad yn y Bury Times, a gyrrodd lythyr at Boris Johnson yn esbonio pam ei fod wedi colli amynedd â’i arweinyddiaeth.

“Dw i’n poeni’n angerddol am bobol De Bury a dw i wedi dod i’r canlyniad bod polisïau’r llywodraeth Geidwadol rydych chi’n ei harwain yn gwneud dim i helpu’r bobol yn fy etholaeth, ond eu bod nhw, yn wir, yn gwneud y problemau maen nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd yn waeth,” meddai.

“Mae angen llywodraeth ar Brydain sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a chynnig llwybr allan o’r pandemig sy’n amddiffyn safonau byw ac amddiffyn diogelwch pawb.

“Mae angen llywodraeth arni sy’n cynnal y safonau uchaf o onestrwydd mewn bywyd cyhoeddus, ac yn anffodus rydych chi, a’r Blaid Geidwadol yn gyffredinol, wedi dangos eich bod yn analluog i gynnig yr arweinyddiaeth a’r llywodraeth mae’r wlad hon yn ei haeddu.”

Roedd Christian Wakeford, ynghyd â chwe aelod seneddol Torïaidd arall, wedi galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo.

Mae’r Aelod Ceidwadol Stephen Crabb, sy’n cynrychioli Preseli Penfro, wedi dweud nad yw ymddiheuriad Boris Johnson am fynd i barti yn Rhif 10 efallai yn ddigonol, wrth i Geidwadwyr blaenllaw yng Nghymru amau ei ddyfodol.

‘Croeso’

Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud: “Hoffwn groesawu Christian Wakeford AS i’r Blaid Lafur”.

“Dw i’n benderfynol o adeiladu Prydain newydd sy’n rhoi sicrwydd o ddiogelwch, parch a llewyrch i bawb, a dw i wrth fy modd bod Christian wedi penderfynu ymuno â ni yn yr ymdrech hon.”

Mae rhai o Aelodau Seneddol Llafur Cymru wedi ei groesawu i’r Blaid Lafur hefyd, gan gynnwys Chris Bryant, yr aelod dros y Rhondda, a Tonia Antoniazzi, yr aelod dros etholaeth Gŵyr.

“Hapus i groesawu ffrind da, Christian Wakeford AS, i feinciau Llafur heddiw,” meddai Tonia Antoniazzi.

“Roedd gofyn i chi fod yn ddewr i wneud yr hyn wnaethoch chi heddiw. Croeso!”

Her am yr arweinyddiaeth

Mae angen i Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922, dderbyn 54 llythyr gan aelodau seneddol Cediwadol er mwyn dechrau her am arweinyddiaeth y Blaid – a dim ond fe sy’n gwybod yn iawn faint o lythyrau sydd eisoes wedi’u cyflwyno.

Mae Dominic Cummings, cyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog, yn honni iddo rybuddio Boris Johnson fod y parti ym mis Mai 2020 wedi torri rheolau’r cyfyngiadau clo.

Ond mae’r Prif Weinidog yn gwadu hyn yn “bendant” ac yn dweud ei fod yn credu ei fod yn ddigwyddiad gwaith.

San Steffan

Ceidwadwyr blaenllaw yng Nghymru’n amau dyfodol Boris Johnson

Mae Stephen Crabb AS Preseli Penfro ac Is-Gadeirydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru’n cwestiynu sut y gall y Prif Weinidog barhau wrth y llyw

Disgwyl i Boris Johnson wynebu Aelodau Seneddol yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog

Fe allai’r Prif Weinidog wynebu bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder