Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer parc antur yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae’r Cyngor wedi cadarnhau y bydd y prosiect yng Nghwm Afan yn gallu mynd yn ei flaen, ar ôl i gytundeb gael ei anrhydeddu gan y datblygwyr, fel rhan o ganiatâd cynllunio amodol a gafodd ei roi ym mis Hydref y llynedd.

Roedd yn rhaid i Salamanca Group ymrwymo i ddarparu fferm solar, lleihau effeithiau ecolegol a chyfrannu £180,000 tuag at ddatblygu un o lwybrau’r rhwydwaith seiclo genedlaethol.

Bellach, mae hynny wedi’i gyflawni ac mae modd i’r cynllun, sydd wedi cael sêl bendith yr anturiaethwr Bear Grylls, gael ei ddatblygu.

Mae’n debyg y bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu fel rhan o’r prosiect, sy’n un o nifer o ddatblygiadau hamdden newydd y brand Wildfox Resorts.

Amheuon

Mae amheuon wedi bod am y cynlluniau dros y blynyddoedd oherwydd eu cysylltiad â gŵr busnes sydd wedi’i amau o dwyll.

Fe wnaeth Gavin Woodhouse ddenu buddsoddiad o £200m ar gyfer parc antur Cwm Afan.

Yn dilyn ymchwiliad gan ITV a The Guardian, daeth i’r amlwg fod bylchau gwerth miliynau o bunnoedd yn rhai o gynlluniau eraill Woodhouse, gan gynnwys gwestai a chartrefi gofal ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Woodhouse bellach yn destun ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.

Dydy hi ddim yn edrych yn debygol bod datblygiad y parc antur yn destun ymchwiliad, serch hynny, gan fod y cynllun i’w weld yn datblygu’n brydlon, gydag addewidion i fuddsoddwyr yn cael eu hanrhydeddu hyd yn hyn.

“Mae aelodau’r tîm y tu ôl i’r Wildfox Resort wedi dangos yn glir i ni eu hangerdd a’u hymrwymiad, nid yn unig i gyflawni cynllun sydd â’r potensial i ysgogi adferiad economaidd a buddsoddi yn y dirwedd, ond hefyd i greu oes newydd o gyfleoedd hyfforddiant a swyddi i ysbrydoli ein cymuned a busnesau lleol,” meddai Karen Jones, prif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

‘Ased newydd ar gyfer twristiaeth’

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i adfywio a thrawsnewid Cwm Afan ac rydym wedi cyffroi ynghylch potensial Wildfox Resort i helpu i gyflawni hyn,” meddai Ted Latham, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael penderfyniad cadarnhaol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot,” meddai Martin Bellamy, cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol Salamanca Group.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r cyngor a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu’r prosiect eleni.

“Byddwn yn gweithio’n gyflym i droi ein gweledigaeth yn realiti a chreu ased newydd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.”