Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar ganran uwch o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru yn ystod wythnos gyntaf Ionawr na chyn y Nadolig.

Yn yr wythnos hyd at 7 Ionawr, cafodd 776 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru ac roedd 7.9% ohonyn nhw’n ymwneud â Covid-19.

Roedd hynny’n gynnydd o tua 4% o gymharu â faint o dystysgrifau marwolaethau oedd yn crybwyll Covid-19 yn yr wythnos yn gorffen 24 Rhagfyr.

Bu cynnydd yn nifer y marwolaethau oedd yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru yn ystod yr wythnos yn gorffen 7 Ionawr 2022, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cafodd Covid-19 ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 61 o bobol yn yr wythnos honno, o gymharu â 24 yn ystod yr wythnos flaenorol.

Fodd bynnag, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth y gwyliau banc dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd effeithio ar nifer y marwolaethau gafodd eu cofnodi yn yr wythnos yn gorffen 31 Rhagfyr.

Cyn y Nadolig, roedd marwolaethau Covid-19 Cymru’n gostwng yn gyson ers dros fis.

Gyda’i gilydd, roedd nifer yr holl farwolaethau yng Nghymru 8.9% yn is na’r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf (76 marwolaeth yn llai) yn ystod wythnos gyntaf Ionawr 2022.

Rhwng yr wythnos yn gorffen 13 Mawrth 2020 a 7 Ionawr 2022, mae nifer y marwolaethau ychwanegol o gymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd yn 6,520 yng Nghymru, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.