Mae’r Aelod Ceidwadol Stephen Crabb wedi dweud nad yw ymddiheuriad Boris Johnson am fynd i barti yn Rhif 10 efallai yn ddigonol.

Mae agweddau ymhlith ASau Torïaidd wedi dwysau yn erbyn y Prif Weinidog wedi iddo wadu’n “bendant” nad oedd yn ymwybodol bod y parti yng ngardd Rhif 10 yn ystod y cyfnod clo cyntaf wedi torri rheolau Covid.

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru fod etholwyr yn teimlo ei fod wedi eu “siomi’n wirioneddol” gan adroddiadau o “achosion amlwg o dorri’r cyfyngiadau”.

Sylwadau Stephen Crabb yw’r rhai mwyaf beirniadol i ddod gan AS Ceidwadol o Gymru.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog wynebu sesiwn heriol o Gwestiynau’r Prif Weinidog y prynhawn yma (19 Ionawr).

Fe bostiodd Lewis Goodall, Golygydd Polisi rhaglen Newsnight ar ei gyfrif Twitter: “Llythyr gan Stephen Crabb ar PM: “Roedd e’n iawn i ymddiheuro yn gynharach yr wythnos hon ond efallai nad yw hyn yn ymateb digonol o ystyried difrifoldeb y materion hyn.”

Yn ei lythyr fe noda Stephen Crabb ei fod wedi gwneud y “Prif Weinidog yn ymwybodol o’r teimladau cryfion sydd yn ei gymuned ynghylch y digwyddiadau sydd wedi cymryd lle yn Downing Street.”

Ymchwiliad Sue Gray

Mae’r Aelod o’r meinciau cefn yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at glywed casgliadau ymchwiliad yr Uwch-was Sifil, Sue Gray i’r digwyddiadau.

Ond dywedodd bod yr ymchwiliad “wedi’i gyfyngu i rai materion” ac efallai na fydd mor “drylwyr ag y mae rhai ei eisiau”.

“Er nad yw efallai wedi mynychu rhai o’r digwyddiadau sy’n cael eu hadrodd, mae ganddo gyfrifoldeb arbennig i osod y safonau sydd wrth wraidd y llywodraeth.

“Roedd e’n iawn i ymddiheuro yn gynharach yr wythnos hon ond efallai na fydd yn ddigonol gan ystyried difrifoldeb y sefyllfa.”

Dywedodd Stephen Crabb ei bod hi’n “anhygoel o anodd pleidleisio o blaid rhai o gyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan wybod yr effaith fydden nhw’n ei gael ar deuluoedd ar hyd a lled y wlad”.

“Mae gweld adroddiadau nawr o dorri’r rheolau hyn gan rai o’r rhai sy’n gweithio o fewn y Llywodraeth rwy’n eu cefnogi yn gwneud i mi deimlo’n hynod siomedig ac wedi fy siomi’n wirioneddol.”

Mae Guto Harri, cyn-gyfarwyddwr cyfathrebu Boris Johnson wedi rhybuddio efallai bod y diwedd ar y gorwel i’r Prif Weinidog.

“Mae’n swnio fel y cyfweliad a wnaeth BJ… wedi effeithio ar yr ychydig ffydd a adawyd ynddo ymhlith nifer o bobl a enillodd eu seddi yn yr etholiad diwethaf.”

“Roedd disgwyl iddyn nhw fod yn fwyaf ffyddlon achos doedd yr un ohonyn nhw wedi ennill eu seddi heb ei bresenoldeb y tro diwethaf. Ond mae’n ymddangos fel eu bod nhw nawr yn troi arno.”

Bydd rhaglen Y Byd yn Ei Le heno yn trafod dyfodol Boris Johnson.

Fe ddywedodd Tomos Dafydd, Is-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru mewn fideo ar gyfrif Twitter rhaglen Y Byd yn Ei Le:”Mae’r sefyllfa yn gwbl anghynaladwy, hyd y gwela i, i arweinyddiaeth Boris Johnson.”

Beth nesa’ i’r Prif Weinidog @Guto_Harrisy’n holi Is-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, @tomosdafyddam y partïon yn Downing Street.

Beth nesa’ i’r Prif Weinidog @Guto_Harrisy’n holi Is-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, @tomosdafyddam y partïon yn Downing Street.

Yn ei gyfweliad fe ddywedodd: “Fe fydd nifer o bobl sydd wedi eu hethol yn 2019 yn cwestiynu o ddifri nawr  p’un ai Boris Johnson yw’r arweinydd gorau i arwain y Blaid Geidwadol i’r etholiad nesaf.

“Mae’n anodd gweld sut y gall y Prif Weinidog droi’r polau piniwn o’i Blaid”

Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth beirniadaeth gan Geidwadwr blaenllaw yng Nghymru, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy. 

Mae angen i Gadeirydd y Pwyllgor 1922, Syr Graham Brady, dderbyn 54 llythyr gan ASau Cediwadol er mwyn dechrau her am arweinyddiaeth y Blaid.

Dim ond Graham Brady sy’n gwybod yn iawn faint o lythyrau sydd eisoes wedi’u cyflwyno.

Mae cyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog, Dominic Cummings, yn honni iddo rybuddio Boris Johnson fod y parti ym mis Mai 2020 wedi torri rheolau’r cyfyngiadau clo.

Ond mae’r Prif Weinidog  yn gwadu hyn yn “bendant” ac yn dweud ei fod yn credu ei fod yn ddigwyddiad gwaith.

Disgwyl i Boris Johnson wynebu Aelodau Seneddol yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog

Fe allai’r Prif Weinidog wynebu bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder
Boris Johnson

Annhebygol y bydd Boris Johnson i’w weld yn gyhoeddus dros yr wythnos nesaf

A Cheidwadwr blaenllaw, Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, yn amau a all Boris Johnson adennill ymddiriedaeth y cyhoedd